Carwch eich Caerdydd

Mae Cyngor y Ddinas yn annog pobl i ‘Garu Caerdydd’ trwy lansio ymgyrch trwy’r ddinas mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth ac ail-orfodi eu dull dim goddef taflu sbwriel a llanast yn y ddinas.

Mae’r ymgyrch enfawr yn cynnwys 5 prif elfen:

Meithrin pŵer pobl

Mae arnom eisiau canu clod y bobl a’r grwpiau sydd eisoes yn helpu i gadw’r ddinas yn lân. Mae grwpiau codi ysbwriel a glanhau gwych yn y ddinas, a byddwn ni’n diolch iddyn nhw’n bersonol trwy’r cyfryngau cymdeithasol a chan ddatgan ein ‘Diolch’ ar fyrddau hysbysebu mawr, ar ochr bysus ac mewn safleoedd bysus ar hyd Caerdydd.

Ymunwch gyda’ch cymdogion i helpu cadw Caerdydd yn daclus, neu gael cyngor ynghylch sefydlu eich grŵp eich hun.

Glanhau yn y Gymdogaeth

Mae timau gwasanaethau cymdogaeth Cyngor y Ddinas yn gwneud gwaith glanhau dwys yn wardiau’r ddinas.

Daw timau’r Cyngor o wahanol adrannau, megis parciau a glanhau ynghyd yn wythnosol er mwyn gwneud gwaith glanhau dwys mewn wyth ward yn y ddinas. Bydd hyn yn ychwanegol at y gweithgareddau glanhau arferol.

Bydd wardiau’r tu allan i’r ddinas hefyd yn cael ymweliadau ychwanegol mewn ardaloedd prysur, megis canolfannau siopa.

Dyma’r wyth ward yn y ddinas:

Ward
Glan-yr-afon
Cathays
Plasnewydd
Adamsdown
Sblott
Butetown
Grangetown
Treganna
Glyn-yr-afon

 

Mae’r Cyngor yn fodlon gweithio â phreswylwyr y cymunedau hyn tra mae’r gwaith glanhau’n digwydd. Os oes gennych ddiddordeb – ymunwch â ni.

Bydd y gwaith glanhau dwys yn cynnwys gwagio gylis, trwsio goleuadau stryd a phethau eraill ar y briffordd, golchi arwyddion ffordd, glanhau’r strydoedd, camau gorfodi, cael gwared ar dipio anghyfreithlon, torri gwrychoedd ar dir y Cyngor a thynnu coed sy’n tyfu’n beryg mewn lonydd.

 

Dull dim goddef taflu sbwriel

Bydd hysbysebu trwy’r ddinas yn atgoffa’r bobl sy’n mynnu taflu ysbwriel yn ddi-hid y gallent wynebu dirwyon os yw swyddogion gorfodi’n eu dal nhw’n taflu.

Mae’r swyddogion gorfodi’n defnyddio Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005 i gyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig o isafswm o £80 am daflu ysbwriel hyd at ddirwy heb gyfyngiad swm gan y llys am droseddau tipio anghyfreithlon.

Mae nifer o dimau gorfodi’n gweithredu yn y ddinas ac mae tîm ychwanegol nawr yn gweithio yn ardaloedd y myfyrwyr.

Nid yw’r Swyddogion Gorfodi’n canolbwyntio’n unig ar eiddo preswyl neu fusnes nad ydyn nhw’n rhoi eu gwastraff allan i’w gasglu’n gywir ar y palmant. Maen nhw hefyd yn cymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai sy’n storio gwastraff yn anghyfreithlon o flaen eu heiddo a chwmnïau neu unigolion sy’n gosod sgipiau ar y briffordd neu ar dir y Cyngor heb ganiatâd cywir.

Gweld gwyboadeth am eich casgliadau neu gweld gwybodaeth am y dirwyon gallwch eu hwynebu.

Codi Ymwybyddiaeth am Ailgylchu

Mae cyfrannu trwy ailgylchu a chompostio yn hanfodol i’r ddinas. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu heriol sy’n uwch na’r targedau a osodwyd yn Lloegr. Mae ar y ddinas angen ailgylchu a chompostio 64% o’r gwastraff erbyn 2020 a chynyddu hynny i 70% erbyn 2025.

Hoffem ni ddiolch i’r rhai sy’n gweithio gyda ni ac yn gwahanu eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.

Gall holl awdurdodau lleol Cymru wynebu cosbau ariannol os nad ydynt yn cyrraedd y targedau. Gall hyn fod cymaint â £400 000 am bob pwynt canran dan y targed y maen nhw. Mae o fudd i’r trethdalwr bod pawb yn chwarae eu rhan ac yn ailgylchu a chompostio cymaint o’u gwastraff ag sy’n bosib.

Sut i wahanu eich gwastraff

Targedu myfyrwyr

Gan weithio’n agos gyda’r Prifysgolion a’r Colegau, bydd gwybodaeth ac addysg am ddull dim goddef Cyngor y Ddinas yn helpu i annog myfyrwyr i fod yn falch o’r ardaloedd y maen nhw’n byw ynddyn nhw.

Bydd tîm gorfodi ychwanegol yn gweithio yn Cathays a Phlasnewydd ac yn cymryd camau gweithredu yn erbyn y rhai nad ydyn nhw’n cyflwyno eu gwastraff yn gywir neu sy’n gadael i wastraff gasglu o flaen eu heiddo.

Ewch i wefan Llety Caerdydd am wybodaeth i myfyrwyr ynglyn â wastraff ac ailgylchu.