Pe bai ailgylchu’n gamp gystadleuol, mae’n ymddangos y byddem ar y podiwm! Digon aml y byddwn yn clywed storïau yn y newyddion am gyfraddau ailgylchu anhygoel gwledydd fel Sweden, sydd wedi cyhoeddi cyfradd ailgylchu o 99%. Serch hynny, dim ond drwy ystyried gwastraff gweddilliol sy’n cael ei losgi i adfer ynni y mae’r gyfradd enfawr hon yn wir. Mae’n rhaid bod hynny’n cael ei ystyried yn Sweden, ond yng Nghymru, nid ydym yn ei gynnwys o dan ailgylchu, er bod gwastraff gweddilliol yn cael ei brosesu yn y ffordd honno yng Nghaerdydd.
Felly mae ystyried cyfraddau ailgylchu’n broblemus, gan fod gwahaniaethau mawr rhwng gwledydd yn yr hyn y maent yn categoreiddio o dan ailgylchu. Serch hynny, mae sefydliad Eunomia Research and Consulting wedi cyhoeddi adroddiad sy’n mynd i’r afael â’r gwahaniaethau hyn i greu tabl sy’n cymharu gwledydd y byd yn ôl ailgylchu gan ddefnyddio un set o ddulliau adrodd.
Ac mae’r newyddion i ni’n dda…
*Mae GST yn sefyll am Gwastraff Solet Trefol.
Mae’r Almaen wedi gwneud cystal â’i henw gan fachu’r safle cyntaf, mae Taiwan yn ail, a chan fod ganddo economi gweithgynhyrchu i raddau helaeth, mae pwyslais mawr ar gyfrifoldeb y cynhyrchwr. Felly mae ailgylchu’n rhan o’r diwylliant. Mae Cymru yn y trydydd safle, ac yn y bôn, fel yn achos pob un o’r gwledydd hyn, ni fyddai’n bosibl heb ymdrechion y cyhoedd. Felly Bobl Caerdydd, dylech deimlo’n falch iawn yn wir!
Ffynhonnell:
Cyhoeddedig: | 13/06/2017 |
Comments are closed.