Ydych chi erioed wedi meddwl beth mae ein tîm Addysg a Gorfodi Gwastraff yn y Gwasanaethau Cymdogaeth yn ei wneud yn y Ddinas? Wel, er mwyn sicrhau bod ein Dinas yn edrych yn lân a thaclus mae gennym dîm o Swyddogion pwrpasol sy’n gweithio rhwng 6am ac 11pm, allan ar y strydoedd bob dydd yn delio â throseddau sy’n ymwneud â gwastraff.
Mae’r swyddogion yn gweithio mewn gwahanol wardiau ledled Ddinas; maen nhw’n sefydlu cysylltiadau â chymdogaethau, busnesau lleol ac yn meithrin perthnasau gyda chymdogaethau a thrigolion i sicrhau y caiff gwastraff ei waredu yn y ffordd gywir er mwyn gwella golwg ein strydoedd.
Mae ‘r swyddogion yn delio â deddfwriaeth sy’n deillio o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, gan gynnwys troseddau sy’n ymwneud â gwastraff megis troseddau Adran 46, pan fo aelwyd â hanes o gyflwyno gwastraff i’w gasglu yn anghywir. Mae hyn yn golygu rhoi cyflwyno gwastraff ar y diwrnod anghywir neu roi gwastraff i’w gasglu wrth ochr y bin olwynion. Pan fo trigolion yn mynd yn groes i hysbysiad adran 46 a bod tystiolaeth wedi’i gasglu yn eu herbyn, caiff hysbysiad tâl cosb o £100 ei gyflwyno am y drosedd yn hytrach na bwrw ati i erlyn y troseddwyr. Os na thelir y gosb yna bydd yr achos yn cael ei erlyn gerbron llys ynadon.
Weithiau bydd problemau’n codi mewn cymunedau pan fo sbwriel wedi’i adael o flaen busnesau, y tu mewn a thu allan i finiau olwynion masnachol. Bydd swyddogion y ward honno yn ymchwilio p’un ai a oes tystiolaeth bod y sbwriel yn deillio o fusnesau eraill neu wedi’i adael yno gan drigolion yr ardal.
Mae swyddogion hefyd yn patrolio strydoedd Caerdydd ac oes bydd person yn cael ei weld
yn gollwng sbwriel neu’n gadael baw ci ar y llawr yna caiff dirwy o £80 ei rhoi yn y fan a’r lle.
Cyhoeddedig: | 08/05/2017 |
Comments are closed.