Yma yng Nghaerdydd mae llawer o bobl anhygoel yn gweithio ar brojectau anhygoel sy’n ymwneud â chynaliadwyedd. Mae Gweithdy Beiciau Caerdydd yn ganolfan ailgylchu beiciau wych sydd wedi ei lleoli ychydig oddi ar Daith Taf. Mae’n adnewyddu beiciau a adawyd neu nad sydd eu hangen mwyach gan roi bywyd newydd iddynt. Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi bod yn rhoi beiciau o’n Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref i’r ganolfan ers peth amser bellach. Fe aethon ni ar drywydd Cydlynydd y Gweithdy, Jon Howes, i ddarganfod mwy.
- Jon, allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich gwaith gyda Gweithdy Beiciau Caerdydd?
Fi yw Cydlynydd y Gweithdy, sy’n chwip o deitl am swydd amrywiol dros ben. O ddydd i ddydd bydda i’n sicrhau fod y gweithdy yn rhedeg mor effeithiol ag y bo modd; rheoli staff a rotas gwirfoddolwyr, recriwtio gwirfoddolwyr, cynnal lefelau stoc, cadw trefn ar y gweithdy ayb. Bydda i hefyd yn delio gydag ymholiadau gan y cyhoedd o safbwynt gwerthiannau beiciau, rhoddion a thrwsio, yn ogystal â rhedeg y gwerthu, casglu a thrwsio hefyd.
- Sawl beic dderbyniwch chi bob mis gan y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref a beth sy’n digwydd iddyn nhw?
Mae’n debyg ein bod ni’n casglu tua 40 o feiciau y mis o’r CAGC; llai yn y gaeaf a mwy yn yr haf, gyda phenwythnos y Pasg yn adeg hynod o brysur. Byddwn yn dod â’r beiciau yma i’r gweithdy er mwyn asesu a ellir eu trwsio ai peidio. Caiff beiciau y mae modd eu defnyddio eu logio ac fe gânt eu trwsio a’u hailddefnyddio. Bydd beiciau eraill sydd wedi dirywio ormod yn cael eu stripio ar gyfer y rhannau ac yna eu cymryd i’w hailgylchu; rydym yn ailgylchu rhwng 0.5 a 1 dunnell o fetelau cymysg bob mis.
- Pa feic yw’r un mwyaf anarferol i chi ei dderbyn/adeiladu/atgyweirio?
Mae’n debyg mai hen feic tandem a roddwyd i ni oedd hwnnw, yn ein gweithdy blaenorol ger Pont Trelái. Fe’i gwnaed gan wneuthurwr Prydeinig o’r enw Higgins, oedd ar eu prysuraf yn y 50au a’r 60au. Gan ei fod yn feic mor brin fe gafodd ei ailwampio’n bwrpasol gennym ar gyfer cwsmer oedd wedi syrthio dros ei ben a’i glustiau am y beic. Yn achlysurol byddwn ni hefyd yn derbyn beiciau o lefydd fel yr Almaen a’r Iseldiroedd. Mae’r beiciau hyn wastad yn ddifyr i weithio arnyn nhw ac yn aml yn eithaf gwahanol yn fecanyddol.
- Pam ddylai pobl ddewis beic wedi ei atgyweirio yn hytrach na beic newydd?
Mae llu o fanteision dros brynu un o’n beiciau ni – yn sicr mae’n rhatach na phrynu beic newydd. Mae’r holl feiciau sydd wedi eu hatgyweirio gennym yn derbyn ail archwiliad gan un o’n staff cymwys cyn i ni eu gosod i gael eu gwerthu, felly gall cwsmeriaid fod yn hyderus eu bod nhw’n ddibynadwy. Nid yn unig hynny, rydym yn rhoi gwarant ar ein holl feiciau am dri mis, felly os cewch chi broblem mae modd i chi ei drwsio. Mae beic wedi’i atgyweirio am £90 gyda gwarant o 3 mis werth yr arian o feddwl y gallech chi wario ddwywaith neu deirgwaith hynny am feic tebyg. Mae cymeriad gan ein beiciau ni hefyd, yn enwedig y rhai hŷn. Yn olaf, mae’r arian o werthu’r beiciau yn mynd yn syth yn ôl i’r cwmni, gan ein galluogi ni i arbed gwastraff, hyfforddi gwirfoddolwyr a chael mwy o bobl i feicio. • Oes unrhyw wasanaethau gennych i annog pobl i gael eu beiciau allan o’u siediau a dechrau beicio ar ddwy olwyn unwaith eto?Rydym yn cynnig gwasanaeth trwsio yn y gweithdy, sy’n cael ei wneud gan un o’n mecanyddion staff cymwys. Rydym yn ceisio trwsio o fewn 48 awr. Rydym yn cynnal cyrsiau i roi’r sgiliau i bobl gwblhau amrywiaeth o dasgau trwsio eu hunain a’u cael nhw nôl ar yr hewl. Hefyd, rydym yn cynnig rhannau wedi eu hailgylchu a fframiau i bobl fyddai’n dymuno ceisio adeiladu eu beiciau eu hunain.
Mae Gweithdy Beiciau Caerdydd (Map) yn cynnal arwerthiant beic yn y gweithdy bob prynhawn dydd Gwener a bore Sadwrn cyntaf pob mis. Mae’r beiciau sydd ar gael wedi eu rhestru ar y dudalen Flikr hon, ond cyntaf i’r felin yw hi – felly cofiwch osod y cloc larwm! Am fwy o wybodaeth am y gweithdy neu’r cyrsiau hyfforddi sydd ar gael – ewch i http://www.cycletrainingwales.org.uk
Cyhoeddedig: | 21/04/2017 |
Comments are closed.