Mae pawb yn y maes chwarae yn hoff ohonyn nhw. Wrth eu rhannu, mae llawer o bobl yn dod yn ffrindiau. Pa bynnag y maen nhw, wedi eu coginio â llaw, wedi eu pobi, neu wedi eu torri mewn tonnau, mae pawb yn dwlu ar greision.
Yn anffodus, mae eu pecynnau yn ofnadwy o anodd eu hailgylchu gan fod cymysgedd o ddeunyddiau ynddyn nhw. Yng Nghaerdydd, ni all ein peiriannau ailgylchu eu prosesu, felly, mae angen cael gwared arnyn nhw os ydyn nhw wedi eu rhoi yn y bagiau ailgylchu gwyrdd ar hap.
Mae hyn yn golygu eu bod yn llenwi biniau ledled y wlad, ond yn ffodus iawn, mae Walkers Crisps a’r cwmni ailgylchu Terracycle wedi dod at ei gilydd i ddod o hyd i ddatrysiad.
Maent yn chwilio am ysgolion, grwpiau cymunedol neu hyd yn oed unigolion i gynnig mannau casglu cyhoeddus ar gyfer pecynnau creision (o unrhyw frand) Am hyn, gallwch ennill pwyntiau dros eich ysgol neu elusen o’ch dewis, y gellir wedyn eu cyfnewid am arian. Mewn gwirionedd, Mae Ysgol Gynradd Gladstone yn Cathays eisoes wedi ymuno â’r cynllun fel man casglu. Gwnaethom ofyn iddynt sut y mae’r pethau’n mynd gyda’r system a dyma eu hymateb:
Rydym ni wedi bod yn casglu pecynnau creision ers tua mis erbyn hyn, ac maent yn pentyrru’n fuan iawn. Rydym yn amcangyfrif bod gennym ni oddeutu 150 o becynnau eisoes, ac rydym ni’n edrych ymlaen at droi’r pecynnau creision hyn mewn cynhyrchion newydd, ac wrth gwrs codi arian sydd ei angen i’n hysgol gyda’r system dyfarnu pwyntiau hon.
Felly, Sut Mae’n Gweithio?
Gallwch ymuno â’r rhaglen am ddim a hynny’n hawdd iawn. Cofrestrwch i fod yn fan casglu drwy wefan Terracycle a dechrau casglu. Ar ôl ichi gasglu digon o becynnau i anfon llwyth cyfan, lawrlwythwch label am ddim a threfnu casgliad UPS. Byddwch yn ennill 200 o bwyntiau am bob 2kg o becynnau creision a gasglwyd a gallwch gael arian am y pwyntiau ddwywaith y flwyddyn.
Os hoffech gymryd rhan, ewch i gael gwybod mwy a lawrlwytho posteri i’w hysbysebu – ar wefan Terracycle.
Cyhoeddedig: | 04/02/2019 |
Comments are closed.