Drigolion mwyn Caerau a Trelai
Beth am Garu Eich Cartref a chymryd rhan mewn ymgyrch godi sbwriel cymunedol. Mae’n gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i’r ardal leol, yn ogystal â dod i adnabod eich cymdogion ychydig yn well.
Ble: Dusty Forge, 460 Cowbridge Road West, CF5 5BZ
Yn canolbwyntio ar ffyrdd/llwybrau lleol, a hefyd ar lanhau’r parc bach ar Heol Cambria.
Mewn cydweithrediad â Cadwch Gymru’n Daclus fel rhan o ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru 2025.
Caiff yr holl offer ei ddarparu, ac mae croeso cynnes i blant ddod hefyd (mae crafangau sbwriel llai gennym ar gyfer dwylo bach). Rhaid i bob plentyn aros o dan oruchwyliaeth rhiant neu warchodwr yr holl amser.
Gwisgwch esgidiau addas, a sicrhau eich bod yn gwisgo dillad sy’n addas i’r tywydd.