Adnoddau Ysgol

Mae Sothach Sbwriel wedi ymuno ag Ailgylchu Cymru i’w gwneud yn haws cynnig gweithgareddau dosbarth ar destun ailgylchu.

Mynnwch gip ar yr adnoddau y gallwch eu lawrlwytho a’u defnyddio am ddim isod.  Mae ymarferion dosbarth ar gyfer y plant, projectau ar gyfer y dosbarth cyfan a syniadau ar gyfer gwaith grŵp neu eco-gymunedau.

Mae hefyd ffeithlen ailgylchu ar eich cyfer chi’r athrawon i’ch rhoi chi ar y trywydd cywir.

Yn cyflwyno Capten Bysta a’r Lefftenant Pong, yr eco-frwydwyr rhyng-galaethol, sy’n gweithio’n galed i drio deall eu pethau ynghylch ailgylchu yma ar y Ddaear.  Yn y chwe Fideo Chwalwyr Gwastraff, maen nhw’n dangos eu darganfyddiadau.

Mae pecyn adnoddau i Athrawon hefyd, sy’n cynnig ymarferion i gyd-fynd â’r fideos.

Ydych chi erioed wedi ystyried faint o wastraff mae eich ysgol yn ei gynhyrchu go iawn a faint gaiff ei ailgylchu?  Mae ymarfer da yn cychwyn gartref (neu yn yr ysgol), ac mae’n amser darganfod yn union beth sy’n llechu yn y biniau wrth wneud archwiliad gwastraff.

Angen rhywfaint o ysbrydoliaeth ond am lywio’ch gweithgareddau dysgu yn eich ffordd eich hun?  Dim problem.  Mae’r ddogfen hon wedi ei chreu i fod yn fan cychwyn ar gyfer ysbrydoliaeth.

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd