<>

Helo!

Dewch i ni ddysgu am ailgylchu yng Nghaerdydd.

Cliciwch ar y botymau gwyrdd i ddechrau >

Ffiaidd!

Druan o’n planed!

Gallwch chi helpu!

Ailgylchwch yn yr ysgol!

Amser cwis!

Fy ffrindiau!

A wyddoch chi
Bob mis yng Nghaerdydd rydyn ni’n creu dros 140 tunnell o sbwriel. Dyna ddigon i lenwi 8 pwll nofio maint Olympaidd!
Mae'r holl wastraff hwnnw yn effeithio’n fawr ar ein planed! Mae nwyau niweidiol yn cael eu rhyddhau i'r awyr rydyn ni’n ei anadlu, ac mae adnoddau gwerthfawr fel coed, olew, mwynau a dŵr yn cael eu tynnu o'r ddaear.
Os ydyn ni’n ailgylchu mwy o’n sbwriel, gellir ei ddefnyddio dro ar ôl tro yn lle cael ei daflu i safle tirlenwi ffiaidd neu ei losgi. Helpu i achub y blaned!
12:34

A ydych chi erioed wedi meddwl am beth sy’n digwydd i’r holl ddeunyddiau ailgylchu hyfryd ar ôl i’r lorïau ailgylchu eu casglu?

Dewiswch eitem isod i weld i ble mae’n mynd!

Gwrandewch bawb, gofynnwch i’ch athrawon a ydych chi’n barod i ailgylchu yn eich ysgol. Os nad ydych, dywedwch wrth eich athrawon ei bod yn amser mynd i’r afael â’r peth!

Cliciwch ar y siapau isod am syniadau ailgylchu ar gyfer yr ysgol!
Os ydych chi’n mynd â’ch cinio eich hun i’r ysgol, trïwch gael cinio heb wastraff. Defnyddiwch boteli amldro neu fflasgiau ar gyfer diodydd yn lle eu taflu bob amser. Cewch gynhwysydd selio amldro ar gyfer bwyd yn lle pacedi taflu. Peidiwch â mynd â mwy o fwyd nag y gallwch ei fwyta.
Trefnwch ffeiriau sborion i godi arian at eich ysgol neu elusen. Gallai dillad a theganau rydych chi’n rhy hen iddyn nhw fod yn berffaith i rywun arall.
Trowch eich bwyd dros ben yn wrtaith. Yna gallech chi ddefnyddio’r gwrtaith i dyfu llysiau! Oes gan eich ysgol le i greu gwely llysiau?

Ydych chi'n arwr ailgylchu?

Gwnewch y cwis>
Da iawn chi!
Rydych chi’n bencampwr ailgylchu, yn helpu i achub y blaned. Daliwch ati!
Gweddol!
Ond gallwch chi wella.
Ewch i Wastebuster.co.uk ac Ailgylchu dros Gymru am awgrymiadau ailgylchu!
O diar!
Rwy’n meddwl bod angen i chi wneud rhywfaint o waith cartref.
Ewch i Wastebuster.co.uk ac Ailgylchu dros Gymru am awgrymiadau ailgylchu!

Amynedd piau hi
Mae’r dudalen yn llwytho.

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd