Gall newidiadau i’r ffordd rydyn ni’n rhoi gwastraff ailgylchu ein cartrefi allan bob wythnos helpu i:
Gwella ansawdd y deunydd sy’n cael ei gasglu
Treialodd Cyngor Caerdydd gynllun ailgylchu ar wahân gyda 10,000 o eiddo ledled y ddinas. Gostyngodd canran yr eitemau anghywir mewn bagiau ailgylchu o 30% i 7%.
Lleihau plastigau untro
Wrth i Gaerdydd gyfan wahanu ei gwastraff ailgylchu, byddwn yn arbed 24 miliwn o fagiau plastig untro y flwyddyn.
Gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd
Trwy wella ansawdd ailgylchu, bydd mwy ohono’n aros yn y DU i gael ei ailgylchu yn hytrach na chael ei anfon dramor. Mae hyn yn helpu i leihau ein hallyriadau carbon.
Cynyddu ein cyfraddau ailgylchu
Mae ein perfformiad ailgylchu oddeutu 62% sydd o dan darged Llywodraeth Cymru o 70%. Bydd y newidiadau yn helpu i gynyddu’r gyfradd.
Gallwch ddarllen mwy am ble mae eich ailgylchu yn mynd ar wefan Fy Ailgylchu Cymru.