Mynd i’r afael â sbwriel yn Afon Caerdydd Aeth 50 o wirfoddolwyr ati ddydd Sadwrn y Pasg i fynd i’r afael ag un tro yn Afon Rhymni lle’r oedd miloedd o fotelau plastig a llawer o wastraff arall wedi ymgasglu. Ni lanhawyd y rhan hon o’r afon erioed o’r blaen a chafodd y gwirfoddolwyr eu synnu o weld cymaint o wastraff a oedd yno. Fodd bynnag, mewn llai na dwy awr, glanhawyd yr ardal yn llwyr gan y gwirfoddolwyr! Gwnaethant gasglu 150 o fagiau plastig glas i’w hailgylchu gan Terracycle (cânt eu defnyddio i wneud poteli siampŵ newydd) a 6 sach adeiladwyr o eitemau plastig mawr; 4 casgen, 8 côn traffig, cadair, pen bwrdd, 25 bag o wastraff ailgylchu cymysg, 10 olwyn car/teiar, 14 o fotelau nwy, 2 ddiffoddwr tân, 2 oergell, 2 oergell-rewgell, 60 o fagiau a 5 sach adeiladwyr o wastraff cyffredinol i’w ddinistrio. Hefyd, gwnaethant gasglu 10 mat damwain adeiladu wyth troedfedd wedi’u llenwi â pholystyren, 2 gynhwysydd o olew injan, ysgol, gynhwysydd dŵr enfawr, a 2 fag o beli-troed! Gellir gweld lluniau yma https://www.flickr.com/photos/47355989@N07/albums/72157665244439987 Dywedodd yr aelod pwyllgor, Nigel Barry, “Roedd cymaint o wynebau newydd heddiw, llwyth ohonynt! Mae’r rhaglen Blue Planet yn parhau i newid […]