Mynd i’r afael â sbwriel yn Afon Caerdydd
Aeth 50 o wirfoddolwyr ati ddydd Sadwrn y Pasg i fynd i’r afael ag un tro yn Afon Rhymni lle’r oedd miloedd o fotelau plastig a llawer o wastraff arall wedi ymgasglu. Ni lanhawyd y rhan hon o’r afon erioed o’r blaen a chafodd y gwirfoddolwyr eu synnu o weld cymaint o wastraff a oedd yno. Fodd bynnag, mewn llai na dwy awr, glanhawyd yr ardal yn llwyr gan y gwirfoddolwyr!
Gwnaethant gasglu 150 o fagiau plastig glas i’w hailgylchu gan Terracycle (cânt eu defnyddio i wneud poteli siampŵ newydd) a 6 sach adeiladwyr o eitemau plastig mawr; 4 casgen, 8 côn traffig, cadair, pen bwrdd, 25 bag o wastraff ailgylchu cymysg, 10 olwyn car/teiar, 14 o fotelau nwy, 2 ddiffoddwr tân, 2 oergell, 2 oergell-rewgell, 60 o fagiau a 5 sach adeiladwyr o wastraff cyffredinol i’w ddinistrio. Hefyd, gwnaethant gasglu 10 mat damwain adeiladu wyth troedfedd wedi’u llenwi â pholystyren, 2 gynhwysydd o olew injan, ysgol, gynhwysydd dŵr enfawr, a 2 fag o beli-troed!
Gellir gweld lluniau yma https://www.flickr.com/photos/47355989@N07/albums/72157665244439987
Dywedodd yr aelod pwyllgor, Nigel Barry, “Roedd cymaint o wynebau newydd heddiw, llwyth ohonynt! Mae’r rhaglen Blue Planet yn parhau i newid agweddau pobl ac mae Grŵp Afonydd Caerdydd wrth wraidd y cyfan. Heb os nac oni bai, mae niferoedd mwy o wirfoddolwyr ar y gweill. Mae’n wych gweld cymaint o bobl yn poeni am yr amgylchedd”.
Dywedodd Louise Tambini o Cadwch Gymru’n Daclus, “Dyma un o’r rhannau mwyaf llygredig o afon i mi erioed ei weld ac rwyf wedi bod yn gwneud y math hwn o waith am dros 20 o flynyddoedd! Cefais sioc farwol o weld cymaint o blastig oedd yno. Mae wir angen i ni feddwl am y dewisiadau’r ydym yn eu gwneud wrth brynu cynhyrchion er mwyn ceisio osgoi plastig un-tro, ond wrth gwrs mae angen i ni waredu sbwriel yn gywir ar ôl i ni orffen ei ddefnyddio. Gallai’r rhan fwyaf o wastraff a ganfyddir yma heddiw fod wedi’i ailgylchu mewn biniau domestig, nid yw sbwriela’n dderbyniol o gwbl”
“Wedi dweud hynny, roedd heddiw yn enghraifft wych o beth y gallwch ei gyflawni mewn partneriaeth. Wrth gwrs roeddem ni’n falch iawn o’r ymateb gan bobl Caerdydd a ddaeth i helpu. Mae 50 o wirfoddolwyr yn nifer anferth a gwnaethant oll weithio’n galed iawn! Glanhawyd y safle’n llwyr mewn llai na 2 awr – am gyflawniad!” ychwanegodd.
Cariwyd gwastraff yn ôl i Ganolfan Ffordd Lamby i’w ailgylchu gan Gyngor Caerdydd. Diolch i Gyfoeth Naturiol Cymru am brynu pecyn codi sbwriel newydd i’r grŵp. Cyrhaeddodd mewn da bryd.
Cynhaliwyd y digwyddiad hwn yn rhan o Spring Clean Cymru wedi’i drefnu gan Cadwch Gymru’n Daclus (trefnwyd cynnal y digwyddiad ar 4 Mawrth yn wreiddiol ond bu’n rhaid ei aildrefnu o ganlyniad i’r Bwystfil o’r Dwyrain).
Am ragor o wybodaeth, neu i gymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol ewch i’n gwefan http://cardiffriversgroup.co.uk/ neu ffrydiau’r cyfryngau cymdeithasol.
Cyhoeddedig: | 05/04/2018 |
Comments are closed.