Dewch yn Ymgyrchydd Sbwriel
A oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu eich cymuned leol a helpu i godi sbwriel oddi ar strydoedd Caerdydd? Yna beth am ddod yn Ymgyrchydd Sbwriel!
Os byddwch yn cofrestru fel Ymgyrchydd Sbwriel, yna gallwch fenthyg offer codi sbwriel a bagiau pinc o’ch hyb a/neu lyfrgell leol. Rydyn ni’n ei gwneud hi’n syml i fod yn rhan o’r byd gwerth chweil o godi sbwriel!
Os oes gennych fwy o ddiddordeb mewn codi sbwriel gyda grŵp, yna gallwch ddod o hyd i fanylion grwpiau codi sbwriel lleol Caerdydd yma.
Os ydych yn mynd allan, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y canllawiau diogelwch isod a gadewch i ni wybod beth rydych chi’n ei wneud – rydym wrth ein bodd â lluniau! Gallwch e-bostio lluniau i CarwchEichCartref@caerdydd.gov.uk
Casglu sbwriel – arferion gweithio diogel
Rydych chi’n gyfrifol am eich diogelwch eich hun pan fyddwch allan. Darllenwch ein cyfarwyddiadau diogelwch a’u dilyn pan fyddwch yn codi sbwriel. Byddwch yn synhwyrol a pheidiwch â chymryd risgiau.
- Peidiwch â mynd allan os ydych chi’n teimlo’n anhwylus neu os ydych chi’n dangos symptomau annwyd neu ffliw, neu os oes gennych dymheredd uchel neu beswch newydd a pharhaus.
- Peidiwch byth â chodi sbwriel gyda’ch dwylo; defnyddiwch grafanc codi sbwriel bob tro.
- Os ydych chi’n dymuno defnyddio menig i godi sbwriel, defnyddiwch eich menig personol eich hun. Golchwch eich dwylo yn drylwyr am 20 eiliad gan ddefnyddio sebon a dŵr poeth cyn ac ar ôl codi sbwriel.
- Gwisgwch esgidiau sy’n cau am eich traed a dillad synhwyrol a phriodol, sy’n addas i dywydd newidiol Caerdydd. Os bydd yn braf, gwisgwch ddillad â llewys, het, eli haul a chofiwch yfed digon o ddŵr. Os gallwch gael gafael ar fest gwelededd uchel rydym yn argymell i chi ei gwisgo.
- Sicrhewch fod ffôn symudol â batri llawn wrth law rhag ofn y bydd argyfwng.
- Peidiwch â chodi sbwriel yn agos at ffyrdd prysur neu gyflym (mae yna draffig o hyd), ar gledrau’r rheilffordd neu gerllaw, neu gerllaw neu mewn dŵr. Hefyd cofiwch fod yn ymwybodol o’r dirwedd gyffredinol.
- Dim ond mewn ardaloedd wedi’u goleuo’n dda a lle mae gwelededd da y dylech godi sbwriel. Peidiwch â chodi sbwriel gyda’r nos neu ar ôl iddi nosi.
- Byddwch yn ofalus wrth godi sbwriel mewn ardaloedd lle mae llystyfiant. Gall y tir fod yn anwastad a gall planhigion guddio peryglon.
Bydd ein criwiau ond yn casglu bagiau sydd wedi’u darparu ar gyfer gwirfoddolwyr ac NI fydd yn casglu bagiau du. Cysylltwch â ni os hoffech gael rhai.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â carwcheichcartref@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 02920 717564.
There are currently no scheduled events.