Ydych chi’n fusnes sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth? Beth am gofrestru i ddod yn orsaf Ail-lenwi? Mae’n hawdd a chyflym.
I gael mwy o wybodaeth:
Gwe: www.refill.org.uk
www.citytosea.org.uk
Twitter: @RefillWales
Wel, gallwch wneud hyn ledled Caerdydd diolch i’n hymgyrch newydd Ail-lenwi Caerdydd.
Mae Ail-lenwi neu Refill yn ymgyrch ledled gwledydd Prydain i leihau llygredd plastig trwy wneud ail-lenwi potel ddŵr mor hygyrch â phosibl.
Lawrlwythwch yr Ap Refill i ddod o hyd i’ch pwynt ail-lenwi agosaf, a chadwch olwg mas am sticeri ffenestri Ail-lenwi.
Er mwyn eich rhoi ar ben ffordd, beth am ymweld â Marchnad Caerdydd a rhoi cynnig ar y ffynnon sydd newydd ei gosod!
Mae Ail-lenwi yn un o sawl ymgyrch gan City to Sea, y sefydliad nid-er-elw sy’n rhedeg ymgyrchoedd i atal llygredd plastig morol.
Lansiwyd Refill ym Mryste yn 2015, ac erbyn hyn mae dros 13,000 o orsafoedd ail-lenwi ledled y DU wedi’u cofrestru ar yr Ap Refill am ddim sy’n dangos i chi lle gallwch ail-lenwi eich potel ddŵr am ddim.
Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.
© Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd
Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd