Sesiynau Ysgol gyda Rheoli Gwastraff Cyngor Caerdydd

Rydym yn llawn cyffro i fod yn ymweld ag ysgolion ledled y ddinas!
Rydym yn cynnig:

  • sesiynau cymorth yn y dosbarth ar gyfer casgliadau ailgylchu ar wahân, a
  • sesiynau cyflwyniadol am ffyrdd cynaliadwy o fyw. Sesiynau wedi’u hintegreiddio i’r cwricwlwm gan Lywodraeth Cymru yw’r rhain, wedi’u cynllunio gan Wrap Cymru.

Edrychwch ar y disgrifiadau o bob sesiwn cyn dewis yr un sydd fwyaf addas ar gyfer eich disgyblion.

Sylwch y gallwn ddarparu uchafswm o 2 sesiwn gefn-wrth-gefn fesul ymweliad ysgol. Mae pob sesiwn yn cynnwys 30 disgybl ar y mwyaf.

Sesiwn cymorth ailgylchu ar wahân:
Cam Cynnydd 1 i 2

Mae llawer o gartrefi, ysgolion a busnesau yng Nghaerdydd yn newid y ffordd maen nhw’n ailgylchu. Nawr bydd angen iddyn nhw wahanu deunyddiau. Bydd hyn yn helpu i wella ansawdd materol, gan gyfrannu tuag at economi gylchol yng Nghymru.

Er mwyn cefnogi’ch ysgol trwy’r newid hwn, byddwn yn cyflwyno ac yn trafod y rheswm y tu ôl i’r newidiadau. Byddwn yn annog disgyblion ac athrawon i rannu eu meddyliau a’u syniadau, a byddwn yn trefnu amser ar gyfer cwestiynau.

Bydd disgyblion hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd didoli gwastraff. Bydd hyn yn profi eu gwybodaeth am yr hyn y gellir ac na ellir ei ailgylchu gartref ac yn eu cymunedau.

Bydd y sesiwn hon yn para rhwng 40 munud ac 1 awr.

Ysgolion – yr hyn sydd ei angen arnom gennych chi

Sicrhewch y canlynol:

bod athro’n bresennol i gymryd rhan yn y sesiwn.

bod y dderbynfa yn ein disgwyl, i osgoi oedi.

bod gennych sgrin arddangos electronig fawr y gallwn ei defnyddio. Byddwn yn anfon e-bost gyda’r cyflwyniad atoch cyn i ni ymweld. Pe gallech osod y cyflwyniad ymlaen llaw, byddai hyn yn ddefnyddiol

rydych chi’n cadw ac yn paratoi lle ar gyfer ein hymweliad. Byddai neuadd neu ardal garped ystafell ddosbarth yn addas ar gyfer hyn.

Caerdydd Un Blaned: Sesiynau Cwricwlwm Cymru

Rydym yn falch o weithio fel rhan o Gaerdydd Un Blaned, gan gefnogi cwricwlwm Llywodraeth Cymru.

Mae ein sesiynau naid yn cyflwyno disgyblion i’r cysyniad o ffyrdd cynaliadwy o fyw. Sesiynau wedi’u hintegreiddio gan gwricwlwm Llywodraeth Cymru yw’r rhain.

Rydym yn rhannu rheoli gwastraff yn 2 adran.

Organig

Mae organig yn cyfeirio at ddeunyddiau gwastraff sy’n tyfu’n naturiol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • bwyd, a
  • gwastraff gardd.

Gweld yr holl sesiynau sbardun ar ddeunyddiau organig.

Mecaneg

Mae mecaneg yn cyfeirio at nwyddau a weithgynhyrchwyd. Er enghraifft:

  • deunydd pecynnu,
  • dillad, neu
  • • unrhyw gynnyrch dynol yr ydym yn dod ar ei draws fel defnyddwyr.

Gweld yr holl sesiynau sbardun ar ddeunyddiau mecanyddol.

Organig

Bydd sesiynau cyflwyniadol organig yn cyflwyno gwastraff bwyd i ddisgyblion. Trwy gyflwyniad, bydd disgyblion yn dysgu pwysigrwydd cael cymaint o werth â phosibl allan o fwyd. Yn hyrwyddo gwaith a gyflwynir gan WRAP Cymru ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru, nod y sesiynau hyn yw cyflawni nodau lleihau gwastraff ac ailgylchu uchelgeisiol Cymru.

Bydd disgyblion yn dysgu sut i ailgylchu gwastraff bwyd a manteision hyn. Er enghraifft, sut mae defnyddio cadi bwyd yn dangos ystyriaeth i’r amgylchedd, tra’n osgoi sbwriel ac arogleuon gwael.

Byddwn yn trafod:

  • sut mae gwastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni gwyrdd neu drydan i oleuo ein hystafelloedd, a
  • sut y gallwn droi gwastraff bwyd dros ben yn gompost.

Bydd y sesiwn yn gorffen gyda gweithgaredd lle gall disgyblion greu eu posteri neu eu sticeri eu hunain i fynd â nhw gartref a’u rhoi ar eu cadis cegin.

 

Bydd y sesiwn gyflwyniadol hon yn para tua awr.

Ysgolion – yr hyn sydd ei angen arnom gennych chi

Sicrhewch y canlynol:

bod athro’n bresennol i gymryd rhan yn y sesiwn

bod y dderbynfa yn ein disgwyl, i osgoi oedi

bod gennych sgrin arddangos fawr y gallwn ei defnyddio, fel sgrin arddangos electronig ystafell ddosbarth. Byddwn yn anfon e-bost gyda’r cyflwyniad atoch cyn i ni ymweld. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech osod y cyflwyniad ymlaen llaw

bod mynediad i’r rhyngrwyd. Mae angen hyn arnom i arddangos y cyflwyniad

rydych yn cadw ac yn paratoi lle ar gyfer ein hymweliad. Bydd angen i’r disgyblion eistedd wrth eu byrddau ar gyfer y gweithgaredd celf. Byddai ystafell ddosbarth yn addas ar gyfer hyn

Bydd disgyblion yn gweithio mewn grwpiau i gymysgu croen ffrwythau a burum mewn jariau. Bydd yr arbrawf syml hwn yn dangos sut y gall gwastraff bwyd gynhyrchu ynni gwyrdd. Bydd hyn yn cyfleu’r broses o dreulio anaerobig, sy’n creu bio-nwy o fater organig. Yna byddwn yn siarad am y ffordd y mae hyn yn cael ei wneud ar raddfa fwy i ddysgu sut mae’n cael ei droi yn drydan.

Byddwn hefyd yn trafod:

  • effaith gadarnhaol troi gwastraff bwyd yn ynni gwyrdd yng Nghymru,
  • effeithiau cadarnhaol a niweidiol eraill ar ein planed, a’r
  • gwahaniaeth rhwng gwastraff bwyd bwytadwy ac anfwytadwy

 

Bydd y sesiwn gyflwyniadol hon yn para tua awr.

Ysgolion – yr hyn sydd ei angen arnom gennych chi

Sicrhewch y canlynol:

bod athro’n bresennol i gymryd rhan yn y sesiwn

bod y dderbynfa yn ein disgwyl, i osgoi oedi

bod gennych sgrin arddangos fawr y gallwn ei defnyddio, fel sgrin arddangos electronig ystafell ddosbarth. Byddwn yn anfon e-bost gyda’r cyflwyniad atoch cyn i ni ymweld. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech osod y cyflwyniad ymlaen llaw

bod mynediad i’r rhyngrwyd. Mae angen hyn arnom i arddangos y cyflwyniad

rydych yn cadw ac yn paratoi lle ar gyfer ein hymweliad. Bydd angen i ddisgyblion eistedd wrth fyrddau, wedi’u rhannu’n ddim mwy na 5 grŵp ar gyfer yr arbrawf. Byddai ystafell ddosbarth yn addas ar gyfer hyn

Wrth i ni barhau i drafod effeithiau cadarnhaol a niweidiol gwahanol ar ein planed, bydd disgyblion yn dysgu am blant eraill ar draws y byd yn gwneud gwahaniaeth.

Bydd disgyblion hefyd yn dysgu:

  • y gwahaniaeth rhwng gwastraff bwyd bwytadwy ac anfwytadwy,
  • sut mae gwastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni gwyrdd, a’r
  • effaith gadarnhaol y mae hyn yn ei chael yng Nghymru.

 

Bydd y sesiwn gyflwyniadol hon yn para tua awr.

Ysgolion – yr hyn sydd ei angen arnom gennych chi

Sicrhewch y canlynol:

bod athro’n bresennol i gymryd rhan yn y sesiwn

bod y dderbynfa yn ein disgwyl, i osgoi oedi

bod gennych sgrin arddangos fawr y gallwn ei defnyddio, fel sgrin arddangos electronig ystafell ddosbarth. Byddwn yn e-bostio’r cyflwyniad atoch cyn i ni ymweld. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech osod y cyflwyniad ymlaen llaw

bod mynediad i’r rhyngrwyd. Mae angen hyn arnom i arddangos y cyflwyniad a chwblhau’r gweithgaredd

bydd disgyblion yn rhannu i 4 neu 5 tîm i ymchwilio i’r ffordd y mae plant yn gwneud gwahaniaeth i’r byd. Bydd angen gliniadur neu gyfrifiadur ar bob tîm i gael mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer hyn

rydych yn cadw ac yn paratoi lle ar gyfer ein hymweliad. Bydd angen i’r disgyblion eistedd wrth eu byrddau. Byddai ystafell ddosbarth yn addas ar gyfer hyn

Mecaneg

Bydd sesiynau cyflwyniadol mecaneg yn cyflwyno pwysigrwydd arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu eu cynhyrchion sy’n cael eu taflu o ddydd i ddydd i ddisgyblion.

Y Sesiwn Naid

Trwy fwrdd stori, bydd y disgyblion yn archwilio 2 daith wahanol y gall darn o ddeunydd pecynnu bob dydd fynd arni. Byddwn yn trafod ac yn myfyrio ar sut mae ein dewisiadau yn effeithio ar yr amgylchedd.

Bydd y daith gyntaf yn dangos sut y gall gwastraff fod yn adnodd, gyda’r potensial i gael ei ailgylchu yn rhywbeth newydd. Bydd yr ail daith yn dangos sut mae gwastraff yn dianc i’r amgylchedd fel sbwriel.

Bydd y disgyblion yn chwilio am ddeunyddiau cudd o amgylch yr ystafell mewn helfa sbwriel. Pan fyddant yn dod o hyd i bob eitem, byddwn yn trafod y symbolau ailgylchu ar bob un. Gall disgyblion ddefnyddio hyn i ddidoli deunyddiau mewn biniau gwahanol wrth i ni annog dull cadarnhaol o ailgylchu.

Bydd y sesiwn naid hon yn para tua 40 munud.

Ysgolion – yr hyn sydd ei angen arnom gennych chi

Sicrhewch y canlynol:

bod athro’n bresennol i gymryd rhan yn y sesiwn

bod y dderbynfa yn ein disgwyl, i osgoi oedi.

rydych chi’n cadw ac yn paratoi lle ar gyfer ein hymweliad. Bydd disgyblion yn symud o gwmpas ar gyfer yr helfa sbwriel a’r gweithgaredd didoli gwastraff. Byddai lle mwy fel neuadd yn addas ar gyfer hyn.

bod gennych sgrin arddangos electronig fawr y gallwn ei defnyddio. Byddwn yn anfon e-bost gyda’r cyflwyniad atoch cyn i ni ymweld. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech osod y cyflwyniad ymlaen llaw.

Y Sesiwn Naid

Byddwn yn trafod gyda’r disgyblion sut y gellir gwneud cynhyrchion a ddefnyddiwn bob dydd o ddeunyddiau naturiol. Byddwn yn eu hannog i archwilio’r hierarchaeth wastraff. Byddant yn dysgu sut y gall deunyddiau “gwastraff” fod yn adnoddau defnyddiol, a sut mae cadw adnoddau’n helpu’r amgylchedd naturiol.

Bydd y disgyblion yn rhoi’r syniadau hyn ar waith, drwy gymryd rhan mewn gweithdy uwchgylchu hwyliog a hawdd. Byddant yn creu waled gyda chartonau Tetra Pak. Mae’r deunydd hwn yn anodd ei ailgylchu.

Bydd y sesiwn naid hon yn para tua 1 awr.

Ysgolion – yr hyn sydd ei angen arnom gennych chi

Sicrhewch y canlynol:

bod o leiaf 2 aelod o staff addysgu yn bresennol i gymryd rhan yn y sesiwn.

bod y dderbynfa yn ein disgwyl, i osgoi oedi.

bod gennych sgrin arddangos electronig fawr y gallwn ei defnyddio. Byddwn yn anfon e-bost gyda’r cyflwyniad atoch cyn i ni ymweld. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech osod y cyflwyniad ymlaen llaw.

bod mynediad i’r rhyngrwyd. Mae angen hyn arnom i gwblhau’r cyflwyniad a chwblhau’r sesiwn.

rydych chi’n cadw ac yn paratoi lle ar gyfer ein hymweliad. Bydd angen i’r disgyblion eistedd wrth eu byrddau ar gyfer y gweithdy uwchgylchu. Byddai ystafell ddosbarth yn addas ar gyfer hyn.

rydych chi’n gofyn yn garedig i’r dosbarth ddod â chartonau sudd neu laeth wedi’u rinsio. Byddai cartonau sy’n plygu’n hollol wastad yn ddelfrydol. Gallent gasglu’r rhain yn y cyfnod cyn ein hymweliad.

rydych chi’n darparu offer crefftau sylfaenol i’r plant eu defnyddio, fel:

  • sisyrnau diogel,
  • ffyn mesur,
  • tâp gludiog neu dâp trydanol (tâp trydanol sy’n gweithio orau), a
  • llawer o fandiau elastig.

Fel arfer rydym yn gallu dod ag offer sbâr, rhag ofn nad oes digon o offer.

Y Sesiwn Naid

Byddwn yn trafod cadw adnoddau naturiol, ac effeithiau gweithgynhyrchu ar yr amgylchedd. Gall disgyblion archwilio eu pŵer defnyddwyr eu hunain a chyfleoedd i wastraffu llai, gan dynnu sylw at ddewisiadau personol ac effeithiau amgylcheddol.

Byddwn yn archwilio dewisiadau ffordd o fyw ac olion traed carbon gan ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein. Gellir gwneud hyn fel gweithgaredd grŵp neu unigol. Er mwyn helpu i rymuso disgyblion, byddwn wedyn yn gofyn iddynt ystyried addewid gweithredadwy dros newid.

Bydd y sesiwn naid hon yn para tua 1 awr.

Ysgolion – yr hyn sydd ei angen arnom gennych chi

Sicrhewch y canlynol:

bod athro’n bresennol i gymryd rhan yn y sesiwn.

bod y dderbynfa yn ein disgwyl, i osgoi oedi.

bod gennych sgrin arddangos electronig fawr y gallwn ei defnyddio. Byddwn yn anfon e-bost gyda’r cyflwyniad atoch cyn i ni ymweld. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech osod y cyflwyniad ymlaen llaw.

bod mynediad i’r rhyngrwyd. Mae angen hyn arnom i arddangos y cyflwyniad a chwblhau’r sesiwn

rydych chi’n cadw ac yn paratoi lle ar gyfer ein hymweliad. Bydd angen i’r disgyblion eistedd wrth eu byrddau. Byddai ystafell ddosbarth yn addas ar gyfer hyn

Byddwn yn anfon e-bost atoch gyda’r dogfennau canllawiau llawn ar gyfer eich sesiwn i gadarnhau eich archeb.

Bydd y canllawiau’n cynnwys unrhyw weithgareddau asesu unigol a chynllun dysgu dosbarth.

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd