Casgliadau gwastraff

Didolwch!

Dysgwch sut i gyflwyno eich gwastraff ar gyfer ei gasglu. Archebwch ragor o fagiau ac adrodd am gasgliadau a gollwyd.

Gwastraff bwyd

Bydd Caerdydd yn casglu gwastraff bwyd yn wythnosol o bob aelwyd. Gallwch ailgylchu bwyd wedi’i goginio a bwyd amrwd yn ogystal â chydau te ac esgyrn cyw iâr gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Yr unig beth sydd angen arnoch ydy Cadi frown wrth ymyl y ffordd bwyd (Neu bin cymunedol os ydych yn byw mewn fflat) Rhowch eich bag fwyd o fewn eich cadi bwyd cegin, mae’r bagiau yma ar gael yn eich Llyfrgelloedd, Canolfannau hamdden a’ch Hybs lleol. Gallwch archebu’r bagiau yma ar-lein. Pan mae’r bag yn hanner llawn, trosglwyddwch y bag i mewn i’ch cadi ymyl y ffordd ar gyfer casgliad.

Beth sy’n mynd yn y bin bwyd?

Gwaddodion Te a Choffi
Cig ac Esgyrn
Bara a Chrwst
Ffrwythau a Llysiau
Pysgod
Cynnyrch Llaeth
Caiff gwastraff bwyd ei drawsnewid yn ynni er mwyn pweru ein cartrefi gan ddefnyddio proses o’r enw treulio anaerobig. Edrychwch ar yr animeiddiad i ddysgu mwy.
A wyddoch chi y gall 6 cwdyn te wedi’u hailgylchu gynhyrchu digon o drydan i ferwi tegell?
Mewn un flwyddyn gallai’r holl wastraff bwyd yng Nghaerdydd fod wedi llenwi 11 pwll nofio maint Olympaidd!

Ailgylchu

Bydd y Cyngor yn casglu ailgylchu’n wythnosol o bob aelwyd yng Nghaerdydd. Gallwch ailgylchu papur, cardfwrdd, poteli a jariau gwydr, poteli a chynhwysyddion bwyd plastig, erosolau gwag a chaniau bwyd metel i gyd gyda’i gilydd mewn un bag gwyrdd.

Mae bagiau gwyrdd ar gael am ddim o lyfrgelloedd, canolfannau hamdden a hybiau’r Cyngor.

Er mwyn gweld yr hyn mae’r peiriannau ail-brosesu yn ei wneud ar ôl i’r eitemau ailgylchu adael Ffordd Lamby, edrychwch ar y fideos hyn:

Pan fydd eich ailgylchu wedi’i gasglu, caiff ei ddidoli yng Nghyfleuster Ailgylchu Deunyddiau (CAD) Ffordd Lamby, cyn cael eu hail-brosesu er mwyn gwneud nwyddau newydd! Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy.

 

Mewn un flwyddyn, gwnaethom ailgylchu digon o wydr i orchuddio 2000 cwrt tennis!

Ailgylchu fel Adnodd

Ar ôl i’ch ailgylchu gael ei ddidoli’n ddeunyddiau gwahanol, caiff ei werthu i weithgynhyrchwyr i wneud nwyddau newydd.  Gallwch weld beth sy’n digwydd i ailgylchu a gesglir gan y Cyngor ar wefan Fy Ailgylchu Cymru.

I gael gwybod mwy am gyfradd ailgylchu Caerdydd a ble mae’r deunyddiau’n mynd, ewch i Fy Ailgylchu Cymru

Gwastraff cyffredinol

Mae’r Cyngor yn casglu gwastraff cyffredinol bob pythefnos o bob aelwyd yng Nghaerdydd. Yn dibynnu ar eich ardal, caiff gwastraff cyffredinol ei gasglu naill ai mewn bin olwynion neu mewn bagiau streipiau coch a gwyn. Er mwyn annog ailgylchu a chyrraedd targedau ailgylchu llym y llywodraeth, mae swm y gwastraff cyffredinol y bydd y cyngor yn ei gasglu o bob aelwyd wedi’i gyfyngu. Dysgwch fwy am eich casgliad biniau neu fagiau.

A wyddoch chi?
Nid ydym bellach yn anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi yng Nghaerdydd; rydym yn gweithio gyda chwmni o’r enw Viridor sy’n trawsnewid ein gwastraff yn ynni.
Os hoffech chi weld y tu ôl i’r llenni yn y ganolfan, beth am drefnu ymweliad?

Gwastraff gardd

Bydd y Cyngor yn casglu gwastraff gardd yng Nghaerdydd bob pythefnos ym misoedd yr haf ac yn fisol yn ystod y gaeaf. Yn dibynnu ar eich ardal, caiff gwastraff gardd ei gasglu naill ai mewn bin olwynion neu mewn sachau gwyn amldro.
Os yw eich cartref ar lwybr ar gyfer casgliadau sachau gardd amldro, mae’n rhaid i chi ymuno â’r gwasanaeth. Os nad ydych yn siŵr, gallwch wirio eich casgliadau yma.

A wyddoch chi y caiff eich gwastraff gardd ei drawsnewid yn gompost y gellir ei ddefnyddio i dyfu rhagor o blanhigion?
Trwy ailgylchu gwastraff gardd, rydym yn helpu’r amgylchedd. Roedd effaith amgylcheddol ailgylchu gwastraff gardd Caerdydd mewn un flwyddyn gyfwerth â chymryd bron i 2000 o geir oddi ar y ffordd!

Eitemau mawr

Gall eitemau mawr neu feintiau mawr o wastraff a gynhyrchir gan lanhau neu symud allan o dŷ gael eu hailgylchu yn eich canolfan ailgylchu leol am ddim. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi brofi eich bod yn byw yng Nghaerdydd pan fyddwch yn ymweld â’r ganolfan. Dysgu mwy
Yn ogystal, mae Caerdydd yn darparu gwasanaeth casglu eitemau mawr a chasgliadau ar gyfer clirio tai am dâl. Mae hyn yn ateb casglu cost isel er mwyn symud eitemau diangen o’ch cartref.

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd