Galw ar drigolion Caerdydd a De-ddwyrain Cymru – eisiau bod yn Ddeiliad Record y Byd?
I gychwyn #GwanwynGlanCymru, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ymuno gyda Kate Strong i geisio torri Record y Byd Guinness am y Nifer fwyaf o gyfranogwyr i glanhau afon (mewn sawl lleoliad).
Bydd y #TaffTidy yn cael ei gynnal ar 21ain Mawrth gyda sesiynau glanhau ym Merthyr Vale, Pontypridd a Chaerdydd.
Nid briffyrdd sbwriel yw ein hafonydd – dewch i ymuno i wneud gwahaniaeth!
Mae 7 lleoliad lle bydd sesiynau casglu sbwriel yn digwydd ar hyd yr Afon Taf:
- Brecon
- Merthyr Vale
- Pontypridd
- Caerdydd, Gerddi Sophia
- Caerdydd, Llandaf
- Caerdydd, Grangetown
- Bae Caerdydd
Cofrestru: 11am – 11:45am
Sesiwn swyddogol o lanhau: 12pm – 1pm
Os hoffech chi gymryd rhan, cofrestrwch ar wefan Kate Strong drwy ddilyn y ddolen hon:
https://katestrong.global/taff-tidy
Dewch i wneud gwahaniaeth i’n hafonydd!
Comments are closed.