21/03/2025 – 06/04/2025
Cofiwch y dyddiad!
Mae Gwanwyn Glân Cymru gan Cadwch Cymru’n Daclus yn ôl yn 2025, yn digwydd rhwng 21 Mawrth a 6 Ebrill.
Mae’n rhan o Glanhau Prydain Fawr, ymgyrch amgylcheddol gweithredu ar y cyd mwyaf y DU.
Y llynedd, rhoddwyd CGD y gair ar led bod yr amgylchedd yn eiddo i bawb. Mewn pythefnos yn unig, casglodd 5,000 anhygoel o #ArwyrSbwriel yng Nghymru dros 4,000 o fagiau o sbwriel ac ailgylchu.
Mae codi sbwriel yn weithred syml y gall unrhyw un ei wneud er mwyn gwneud gwahaniaeth gweledol ar unwaith i’w hardal. Os ydych eisiau bod y cyntaf i wneud addewid i gefnogi Gwanwyn Glân Cymru 2025, cofrestrwch eich diddordeb yma drwy wefan Cadw Gymru’n Daclus. Gwanwyn Glân Cymru 2025 – Keep Wales Tidy – Caru Cymru
Carwch eich cartref yn 2025.
Os ydych chi eisiau cymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru 2025, gallwn helpu i chi baratoi.
- Os ydych chi eisiau mynd i gasglu sbwriel ar eich pen eich hun neu gyda’ch teulu, gallwch ddod yn Arwyr Sbwriel gyda ni neu gyda Cadwch Gymru’n Daclus.
- Os ydych chi’n fusnes neu’n ysgol ac eisiau trefnu sesiwn casglu sbwriel mewn grŵp, cysylltwch â ni i ddarganfod sut!
Comments are closed.