Mae’r dail yn disgyn eto wrth i’r Hydref ein cyfarch ac rydym yn gofyn am eich help.
Er bod ein timau Cyngor yn brysur yn clirio’r dail o amgylch strydoedd Caerdydd, ni allant fod ymhobman un ar unwaith. A dyma lle gallwch helpu yn eich stryd.
Os ydych yn byw yn rhywle gyda choed ar y stryd yna beth am gyfrannu at yr ymgyrch “Sgubo’r Stryd” leol? Gallwch ei wneud eich hun, neu gynnwys eich cymdogion am sesiwn clirio dail.
Byddwn yn rhoi bagiau i chi, a’r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dweud wrthym bryd y maen nhw’n llawn fel y gallwn eu casglu.
Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â carwcheichcaerdydd@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 029 2071 7564.
Cyhoeddedig: 25/09/2021
Diweddaru ar:19/10/2021
Comments are closed.