Yma yn Carwch Eich Caerdydd, rydym i gyd yn caru coed. Rydym yn gwybod bod coed a phlanhigion yn chwarae rhan allweddol i wneud ein cymdogaethau yn llefydd deniadol a diogel i fyw ynddynt.
Yn anffodus, mae yna rai pobl sydd ddim yn caru coed gymaint â ni. Gall coed ar ein strydoedd fod yn fan amlwg ar gyfer sbwriel a thipio anghyfreithlon. Mae’r gwylanod wrth eu boddau â hyn – ond dydyn ni ddim.
Felly ym mis Gorffennaf cynhaliodd tîm Carwch Eich Caerdydd gystadleuaeth poster wedi ei seilio ar y neges ‘Coeden ydw i – nid bin‘.
Cawsom nifer o geisiadau gwych i’r gystadleuaeth, ond yn y diwedd fe ddewison ni un enillydd sy’n Oedolyn, un enillydd sy’n Blentyn a 4 cynnig yn yr ail safle. Mae’r ddau ddyluniad buddugol wedi’u hargraffu a byddant yn ymddangos yn y mannau trafferthus y gwyddom amdanynt. Fodd bynnag, mae’r 6 dyluniad ar gael yma i chi eu lawrlwytho, naill ai i’w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol, neu i’w harddangos mewn ardal sy’n agos i chi.
Mae’r dyluniadau buddugol gan John, a Beulah (7 oed).
Mae’r dyluniadau ddaeth yn ail gan Cathy ac Alexis (gyda chymorth gan y ferch Jorga-Mae) ac Eleri (11 oed) ac Ava (10 oed).
I lawrlwytho’r posteri cliciwch ar bob un o’r dyluniadau, neu e-bostiwch ni yn CarwchEichCaerdydd@Caerdydd.gov.uk a byddwn yn anfon copi ar e-bost atoch.
Comments are closed.