Rhedodd Tacluso Caerdydd 2024 am bythefnos. Yn ystod yr amser yma, daeth gwirfoddolwyr ar draws Caerdydd allan i helpu i lanhau ein dinas.
Nod yr ymgyrch oedd cael gymaint o wirfoddolwyr ag oedd bosib. Gwahoddwyd gwirfoddolwyr unigol, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau i gymryd rhan.
Arweiniwyd yr ymgyrch gan Gadwch Gymru’n Daclus gyda chefnogaeth Afonydd Caerdydd a’r Tîm Carwch eich Cartref.
Buodd yn llwyddiant mawr!
Dros y pythefnos cafwyd:
- 45 o ddigwyddiadau
- Dros 450 o wirfoddolwyr
- Dros 1000 o fagiau sbwriel wedi’u casglu
- Dros 1100 awr wedi’u gwirfoddoli
Cofiwch, nid oes rhaid i chi aros am y Tacluso Caerdydd 2025 nesaf i gymryd rhan! Os oes gennych ddiddordeb mewn casglu sbwriel, gallwch:
- Ddod yn Hyrwyddwr Sbwriel gyda LWYL.
- Ddod yn Hyrwyddwr Sbwriel gyda Chadwch Gymru’n Daclus.
- Ymuno ag Digwyddiad Grŵp Cymunedol.
- Fenthyg offer o Hyb Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer digwyddiad grŵp.
https://keepwalestidy.cymru/cy/events/tacluso-caerdydd/
Comments are closed.