Mae’n ymddangos bod stori arall sy’n peri pryder yn dod i’r amlwg bob wythnos am y peryglon, a achosir gan ein defnydd gormodol o blastig, i’r gymdeithas a’r blaned. Mae hyn wedi ysbrydoli pobl i chwilio am ddewisiadau amgen ar gyfer y plastigau untro yn eu bywydau. Mae hefyd wedi annog cwmnïau i greu deunyddiau newydd sy’n honni mai dyma’r ateb i’n problem blastig fel bioblastigau neu blastigau bioddiraddadwy. Felly, beth yw’r deunyddiau hyn, sut maen nhw’n wahanol i’n cynhyrchion plastig arferol a sut ddylech chi eu gwaredu yng Nghaerdydd?
Beth yw’r plastigau ‘eco’ hyn?
Mae nifer cynyddol o blastigau amgen yn dod i’r amlwg ar y farchnad ac mae manteision y deunyddiau hyn o’u cymharu â phlastigau confensiynol yn aml yn cael eu trafod yn y diwydiant, gan gynnwys pa mor hawdd yw eu gwaredu.
Mae’r tabl yn dangos trosolwg byr o’r prif ddewisiadau amgen i blastigau a ph’un a ydynt yn ailgylchadwy.
Math o Blastig | Disgrifiad | Enghreifftiau o Logos | Ailgylchadwy? |
Plastigau Bioddiraddadwy | Plastigau sydd, dan amodau penodol, yn cael eu dadelfennu’n naturiol gan bethau byw e.e. pridd, dŵr, neu gompost. Gall hyn gymryd cyfnodau amrywiol o amser ac ni fydd o reidrwydd yn arwain at rywbeth sy’n fuddiol i’r ddaear. |
Dim safon ardystiedig |
Ni ellir eu hailgylchu – rhaid eu rhoi yn y gwastraff cyffredinol. |
Plastigau y gellir eu compostio yn ddiwydiannol | Gall plastigau y gellir eu compostio’n ddiwydiannol gael eu dadelfennu gan ficrobau a’u defnyddio ochr yn ochr â bwyd a gwastraff organig arall i wneud compost.
Fodd bynnag, mewn lleoliad diwydiannol/ffatri yn unig y gellir dadelfennu plastigau y gellir eu compostio’n ddiwydiannol. |
Ni ellir eu hailgylchu –
rhaid eu hanfon ar wahân i gompostiwr diwydiannol neu eu rhoi yn y gwastraff cyffredinol. |
|
Plastigau y gellir eu compostio gartref | Gall plastigau y gellir eu compostio gartref gael eu dadelfennu gan ficrobau a’u defnyddio ochr yn ochr â bwyd a gwastraff organig arall i wneud compost.
Fodd bynnag, mae’r deunyddiau hyn wedi’u cynllunio i ddadelfennu’n gyflym mewn bin compost cartref. (Fel arfer o fewn 12 wythnos) |
Ni ellir eu hailgylchu –
Dylid eu compostio mewn compostiwr cartref neu eu rhoi mewn bin gwastraff cyffredinol. |
|
Bioblastigau / yn seiliedig ar ddeunydd biolegol / yn seiliedig ar blanhigion | Wedi’u gwneud yn llawn neu’n rhannol o ddeunyddiau crai biolegol (ee, cansen siwgwr). Mae bioblastigau yn disgrifio’r hyn y mae’r deunydd wedi’i wneud, nid sut maen nhw’n diraddio. Nid ydynt o reidrwydd yn fioddiraddadwy nac yn gompostiadwy ond os ydynt, byddant yn cael eu labelu felly. | Os ydynt yn fioddiraddadwy neu’n gompostiadwy, dilynwch y cyfarwyddiadau uchod. Os ydynt yn anfiodiraddadwy, efallai y gellir eu hailgylchu os yw’ch awdurdod lleol yn ailgylchu’r cynnyrch hwnnw. | |
Plastigau Ocso-ddiraddadwy | Wedi’u gwneud o danwydd ffosil ond maent yn cynnwys ychwanegion sydd wedi’u cynllunio i ddarnio’r deunyddiau ym mhresenoldeb ocsigen i ficroblastigau. Byddant yn dadelfennu’n araf iawn, neu ddim o gwbl, os ydynt mewn amgylcheddau sy’n cael eu hamddifadu o ocsigen fel dŵr môr neu bridd. Nid ddiraddio yw hyn. |
Dim safon ardystiedig |
Ni ellir eu hailgylchu – rhaid eu rhoi yn y gwastraff cyffredinol. |
Plastigau confensiynol
(Anfiodiraddadwy) |
Prif fath o blastig a ddefnyddir. Wedi’i wneud o danwydd ffosil ac yn para am gyfnodau hir. Gall ddadelfennu i mewn i ddarnau llai, gan ffurfio microblastigau a chronni yn yr amgylchedd. |
Fel arfer mae ganddo god resin plastig, a logo sy’n dangos sut i gael gwared arno. |
Ailgylchadwy–
mae angen i chi wirio o hyd a ellir ailgylchu’r cynnyrch yn eich awdurdod lleol. |
A all ‘eco-ddewisiadau amgen’ gael eu rhoi gydag ailgylchu arferol?
Yr ateb byr yw na allant, er bod sawl plastig ‘eco-ddewisiadau amgen’ ni ddylid rhoi unrhyw un ohonynt gydag ailgylchu arferol gan y byddant yn ei halogi. Fodd bynnag, mae diffyg dealltwriaeth am y deunyddiau hyn a’u gofynion gwaredu wedi arwain at symiau cynyddol ohonynt yn cael eu rhoi mewn biniau ailgylchu.
Yr unig eithriad i’r uchod yw y gellir ailgylchu rhai bioblastigau os nad ydynt yn anfiodiraddadwy, ond eto dim ond os gellir ailgylchu’r eitem honno yn eich awdurdod lleol. A gallai fod yn anodd iawn dweud a yw’r eitem yn fioddiraddiadwy ac yn fioblastig.
Gellir gwaethygu’r dryswch dros y plastigau amgen hyn gan y ffaith bod llawer o’r cynhyrchion hyn yn edrych yn debyg i gynhyrchion plastig safonol. Dim ond trwy edrych ar y symbolau ar y cynhyrchion y gallech sylwi ar y gwahaniaeth.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi?
Os ydych wedi prynu bwyd neu gynhyrchion eraill mewn ‘eco-ddewisiadau amgen’ bydd angen i chi sicrhau eich bod yn eu rhoi yn y biniau cywir. Os oes bin compostio neu fioddiraddiadwy arbenigol ar gael, dyma’r lle cywir. Fel arall, mae’n rhaid iddynt fynd i’r bin gwastraff cyffredinol. Enghreifftiau o’r cynhyrchion y gallech eu gweld yw cwpanau coffi, poteli, cwpanau, cytleri, neu gynwysyddion cludfwyd.
Os ydych chi’n fusnes a hoffai ddefnyddio cynhyrchion ‘eco-ddewisiadau amgen’ yn hytrach na phlastigau confensiynol, bydd angen i chi sefydlu ffrwd wastraff newydd ar eu cyfer a hefyd addysgu eich cwsmeriaid am ble i waredu eu heitemau’n gywir.
Sut mae gwasanaethau gwastraff Cyngor Caerdydd yn ymdrin ag ‘Eco-ddewisiadau amgen’
Yng Nghyngor Caerdydd, nid oes gan gasgliadau gwastraff preswyl a masnach gyfleusterau ar gyfer plastigau bioddiraddadwy, compostadwy neu ocso-ddiraddadwy. Maent yn halogi gwastraff wedi’i ailgylchu, gwastraff gardd a bwyd a gallent hefyd dagu unrhyw beiriant nad yw wedi’i gynllunio i’w prosesu. Dylai pob cynnyrch bioddiraddadwy, compostadwy neu ocso-ddiraddadwy gael ei roi yn y gwastraff cyffredinol.
Yr unig eithriad yw ar gyfer y bagiau bwyd compostadwy a ddarperir gan Gyngor Caerdydd a ddefnyddir i gasglu gwastraff bwyd. Gallwch eu harchebu ar-lein neu eu casglu o’n stocwyr lleol.
Os yw cwmni neu fusnes yn dymuno darparu cynhyrchion compostadwy, bioddiraddadwy neu ocso-ddiraddadwy i’w cwsmeriaid, byddai angen iddynt wneud trefniadau ar wahân gyda gwasanaeth casglu gwastraff arbenigol.
Beth rydym yn ei wneud?
Mae dadl yn y byd gwastraff, ac mae rhai pobl yn dadlau, o’i gymharu â phlastigau confensiynol, fod bioblastigau yn fwy cynaliadwy oherwydd y deunyddiau y maent wedi’u gwneud ohonynt. Fodd bynnag, os cânt eu gwaredu’n anghywir, mae’n amlwg y gallant fod yn halogiad i gynhyrchion y gellir eu hailgylchu neu byddant yn y pen draw yn mynd i losgydd neu wastraff cyffredinol. Sy’n golygu na fyddant yn dod â ni’n agosach at leihau ein gwastraff a sicrhau economi gylchol.
Fel yr ydym wedi darganfod nid yw’r ffaith bod deunydd yn fioddiraddadwy neu’n fioblastig o reidrwydd yn golygu y byddant yn dadelfennu i ddarnau llai diniwed neu ddefnyddiol. Sy’n golygu os yw’r cynhyrchion hyn yn cael eu taflu, maent yn dal i fod yn llygrydd a dylem sicrhau nad ydym yn eu gollwng ar y llawr neu mewn ffynonellau dŵr gan y byddant yn niweidio’r amgylchedd a ninnau. Gallant barhau i fod yn sbwriel yn ein hamgylchedd am amser hir.
Credwn mai’r ateb gwell a thymor hwy fydd ailddefnyddio. Trwy wrthod eitemau untro a defnyddio eitemau y gellir eu hailddefnyddio yn lle, byddwch yn helpu i atal gwastraff rhag cael ei greu.
Os ydych chi’n gwsmer beth am gario cwpanau, poteli neu gytleri y gellir eu hailddefnyddio gyda chi. Gallwch ymweld â siop ail-lenwi/ddiwastraff hyd yn oed.
Os ydych chi’n fusnes, beth am symud oddi wrth ddarparu eitemau untro. Gallech gynnig cymelliadau i gwsmeriaid sy’n dod â’u cwpanau eu hunain. Neu ddarparu opsiynau y gellir eu hailddefnyddio yn unig i’ch cwsmeriaid.
Yn ddiweddar mae Caerdydd wedi dod yn rhan o gynllun ail-lenwi gyda City to Sea. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut y gallwch helpu i leihau defnydd plastig untro Caerdydd yma.
Comments are closed.