Yr haf hwn croesawodd Caerdydd Fin GreenSeas Trust cyntaf Cymru wrth i’r wlad arloesi gydag ymdrechion i frwydro yn erbyn llygredd plastig morol
Mae’r BinForGreenSeas cyntaf yng Nghymru wedi dod i Gei’r Fôr-Forwyn, gan nodi cam pwysig ymlaen yn y frwydr yn erbyn llygredd plastig morol.
Y bin eiconig hwn yw’r 19eg o’i fath yn y DU ac mae’n ychwanegiad hanfodol i Fae Caerdydd, gyda Chei’r Fôr-forwyn yn cael ei henwebu gan Gyngor Caerdydd am ei rôl strategol ym maes cadwraeth amgylcheddol.
Wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer casglu gwastraff plastig PET, a ddefnyddir yn helaeth wrth gynhyrchu poteli plastig untro a chynwysyddion bwyd a diod eraill, nod y bin yw lleihau’r ystadegyn brawychus o 700,000 o boteli dŵr plastig yn cael eu taflu bob dydd yn y DU.
Mae’r GreenSeas Trust wedi ymrwymo i addysgu, hyrwyddo a gweithredu rhaglenni sy’n atal plastig rhag llygru ein moroedd a’n hardaloedd arfordirol. Mae eu BinForGreenSeas yn cyflawni rôl symbolaidd ac ymarferol, gan godi ymwybyddiaeth o’r cysylltiad rhwng gwaredu gwastraff yn amhriodol a’i effeithiau niweidiol ar fywyd morol ac iechyd pobl. Mae Cei’r Fôr-Forwyn yn gobeithio y bydd y bin newydd yn annog ymwelwyr a’r gymuned leol i waredu eu gwastraff plastig yn gyfrifol mewn ymgais i wneud newidiadau diriaethol i iechyd y system eco leol yn y dyfodol.
Ymunodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wastraff, Strydlun a Gwasanaethau Amgylcheddol, â’r tîm yng Nghei’r Fôr-Forwyn i dorri’r rhuban i sefydlu’r fenter amgylcheddol bwysig hon ar 1 Awst y tu allan i Las Iguanas.
Mynegodd Becky Jones, Rheolwr Marchnata yng Nghei’r Fôr-Forwyn, ei chyffro gan ddweud, “Rydyn ni’n hynod falch o groesawu’r Bin GreenSeas Trust cyntaf yng Nghymru yma i Gei Fôr-Forwyn. Mae’r fenter hon yn cyd-fynd yn berffaith â’n hymrwymiad i gynaliadwyedd a’r amgylchedd. Drwy annog ymwelwyr i waredu gwastraff plastig yn iawn, rydyn ni’n gobeithio ysbrydoli diwylliant o ymwybyddiaeth a gweithredu yn erbyn llygredd morol. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth sylweddol o ran gwarchod harddwch naturiol Bae Caerdydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Ychwanegodd llefarydd o Gyngor Caerdydd: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y bin ailgylchu GreenSeas Trust newydd hyfryd hwn ar gyfer plastigion ym Mae Caerdydd. Mae diwylliant plastig untro’n cynyddu ar gyflymder pryderus, ac mae’r ychwanegiad newydd hwn at galon Bae Caerdydd yn gam cadarnhaol ymlaen i helpu i fynd i’r afael â’r broblem yn lleol a lleihau’r don o blastig rhag mynd i’n cefnforoedd!”
Dywedodd Fazilette Khan, MNM, CEnv, IEng, Ymddiriedolwr Sylfaenol The GreenSeas Trust: “Mae GreenSeas Trust yn falch iawn o roi’r BinForGreenSeas i Gaerdydd. Mae lleoli’r bin morwrol hwn wrth ymyl cerdd eiconig John Masefield, Cargoes, yn addas iawn. Mae’r bin yn tynnu sylw at ganlyniadau llygredd plastig morol ar ein cefnforoedd. Mae’r Elusen yn hyderus y bydd y graffeg ar y BinForGreenSeas yn annog ymwelwyr Cei’r Fôr-Forwyn i waredu eu sbwriel plastig yn gyfrifol a helpu i ddiogelu ecosystemau morol a bywyd gwyllt.”
Am fwy o wybodaeth am GreenSeas Trust a’i mentrau, ewch i www.greenseas.org
Comments are closed.