Mae’r Nadolig i lawer yn adeg llawen o’r flwyddyn lle mae ffrindiau a theulu yn dod at ei gilydd. Yn anffodus, mae hefyd yn aml yn arwain at gynhyrchu gormod o wastraff. Efallai eich bod wedi bod yn meddwl, sut y gallaf leihau faint o wastraff a gynhyrchir yn fy nghartref y Nadolig hwn? Wel, mae gennym rai awgrymiadau am ffyrdd bychain y gallwch leihau eich gwastraff a chael Nadolig mwy cynaliadwy!
Gallwch roi cynnig ar un neu ddau, neu hyd yn oed bob un ohonynt!
Bwyd
-
- Cynlluniwch eich cinio Nadolig a’ch bwyd ar gyfer faint o bobl rydych chi’n eu bwydo a cheisiwch beidio â gor-brynu bwyd. Mae Caru Bwyd Casáu Gwastraff wedi creu cynllunydd dognau i helpu!
- Defnyddiwch unrhyw fwyd dros ben drwy ei wneud yn bryd arall. Dyma rai syniadau am ryseitiau i’ch rhoi ar ben ffordd.
- Os oes gennych rywfaint o fwyd na allwch ei ddefnyddio neu wastraff cynhyrchion (e.e. esgyrn neu bilion llysiau), gwnewch yn siŵr eu bod yn mynd i mewn i’ch cadi gwastraff bwyd fel y caiff ei ddefnyddio i greu ynni.
- Os ydych yn chwilio am fwy o ysbrydoliaeth i leihau eich gwastraff bwyd eleni, mae gan Caru Bwyd, Casáu Gwastraff awgrymiadau gwych.
Lapio
-
- Ni ellir ailgylchu llawer o bapurau lapio a phan fyddant mewn bagiau ailgylchu, mae’n anodd iawn gwybod y gwahaniaeth rhwng rhai y gellir eu hailgylchu a rhai na ellir eu hailgylchu. Felly, yr unig bapur lapio a ddylai fynd yn eich bagiau gwyrdd yw papur brown heb ychwanegion rhubanau metelig.
- Gallech ddefnyddio papur brown a gwneud rhubanau papur neu fuddsoddi mewn rhai stampiau Nadolig i’w defnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn.https://www.youtube.com/watch?v=BxnJxaCWND0
- NEU yn lle papur lapio untro beth am ddefnyddio opsiynau lapio y gellir eu hailddefnyddio fel bagiau neu ddarnau o ddeunydd.
Anrhegion
-
- Wrth ddewis anrhegion, gallwch geisio prynu eitemau sydd mewn llai o ddeunydd pacio neu ddeunydd pacio y gellir ei ailgylchu, fel cardbord.
- Wrth brynu rhoddion, mae hefyd yn bwysig ein bod yn meddwl am yr hyn yr ydym yn ei brynu, p’un a oes ei angen a beth fyddai’n cael ei werthfawrogi fwyaf gan y derbynnydd. Rhai awgrymiadau amgen hwyliog yw rhoi profiadau i rywun annwyl neu amser yn gwneud rhywbeth gyda’ch gilydd.
- Os ydych yn teimlo fel bod yn grefftus gallech roi cynnig ar wneud rhai anrhegion i bobl, efallai pobi rhywbeth blasus iddyn nhw neu rhowch gynnig ar waith llaw.
Addurniadau
-
- Yn hytrach na phrynu pob addurniad yn newydd bob blwyddyn defnyddiwch y rhai sydd gennych eisoes. Gwnewch draddodiad o godi’r un addurniadau sydd gennych bob blwyddyn.
- Gallech hyd yn oed roi cynnig ar wneud rhai eich hun. Gweithgaredd gwych i’w wneud fel teulu neu ar eich pen eich hun dros gyfnod y Nadolig. Mae rhai syniadau yma ac yma.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau gwastraff yng Nghaerdydd y Nadolig hwn dilynwch y ddolen hon: Nadolig Caerdydd
Diweddarwyd: 06/12/2023
Comments are closed.