Efallai eich bod wedi gweld casglwyr sbwriel gwirfoddol ar waith neu fagiau pinc neu goch wrth ymyl biniau sbwriel yn barod i’w casglu. Mae mwy a mwy o bobl anhygoel yn ymuno â’r mudiad i wneud Caerdydd yn lle taclusach. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bob gwirfoddolwr am y gwahaniaeth enfawr a wnewch i’n dinas, rydym mor lwcus i’ch cael yn rhan o’r tîm.
Os oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan, ond nad ydych yn siŵr sut, darllenwch ymlaen i gael gwybod am y gwahanol opsiynau.
Cymerwch ran mewn sesiwn casglu sbwriel gyda’ch grŵp lleol
Mae llawer o grwpiau casglu sbwriel sefydledig ledled Caerdydd, sy’n gwneud gwaith anhygoel yn trefnu digwyddiadau casglu sbwriel i drigolion gymryd rhan ynddynt. Mae’r digwyddiadau hyn yn wych ar gyfer cwrdd â phobl eraill o’r un anian a gweld effaith ymdrech ar y cyd. Os ydych chi’n hoffi’r syniad o sesiynau casglu sbwriel cymdeithasol a gweladwy, dyma fyddai’r opsiwn i chi.
Gallwch ddod o hyd i fanylion y gwahanol grwpiau a chalendr o weithgareddau ar ein tudalen gymunedol.
Os nad oes grŵp yn eich ardal eisoes a bod diddordeb gennych mewn dechrau un, gall Cadwch Gymru’n Daclus eich helpu i ddechrau arni.
Ydych chi eisiau gwirfoddoli’n annibynnol? Dewch yn Ymgyrchydd Sbwriel
Mae Carwch Eich Cartref a Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithredu cynllun Ymgyrchwyr Sbwriel i alluogi unigolion a theuluoedd i gasglu sbwriel yn annibynnol ar ddigwyddiadau a drefnir. Yn y ddau gynllun byddech yn cael eich cofrestru’n wirfoddolwr ac yn cael gwybodaeth bwysig am sut i gasglu sbwriel yn ddiogel. Mae’r cynlluniau hyn yn agored i bobl dros 18 oed yn unig.
Ymgyrchwyr Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus
Fel Ymgyrchydd Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus, byddwch yn cael eich offer casglu sbwriel eich hun i ofalu amdano gartref a’i ddefnyddio fel y dymunwch. Mae’r offer ar gael tra bydd stociau’n para. Mae’r cynllun hwn yn berffaith i’r rheiny a hoffai gasglu sbwriel yn rheolaidd.
Gofynnir i chi hefyd gofnodi eich gweithgarwch gwirfoddol ar-lein oherwydd mae’n wych gweld y gwaith rydych chi’n ei wneud ac rydym am ddathlu eich ymdrechion! Os hoffech fod yn Ymgyrchydd Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus, gallwch gysylltu â ni yma.
Ymgyrchwyr Sbwriel Carwch Eich Cartref
Fel Ymgyrchydd Sbwriel Carwch Eich Cartref, byddwch yn cael cerdyn benthyca arbennig i fenthyg offer casglu sbwriel o Lyfrgelloedd a Hybiau Caerdydd, yn debyg i fenthyg llyfr llyfrgell. Mae’r cynllun hwn yn berffaith i unigolion a hoffai fenthyg offer casglu sbwriel yn hyblyg, ond nid yw’r cynllun hwn ar gael i grwpiau sy’n dymuno benthyg llwyth o offer.
Gall Ymgyrchwyr Sbwriel Carwch Eich Cartref hefyd gofrestru eu plant fel Arwyr Sbwriel i ennill gwobrau bach!
Byddem hefyd yn gofyn i chi gofnodi eich gweithgarwch gwirfoddol ar-lein i’n helpu i’ch dathlu! Mae hefyd yn rhoi llwyfan i chi gynnig adborth i ni. Os hoffech fod yn Ymgyrchydd Sbwriel Carwch Eich Cartref, cysylltwch â ni drwy e-bostio carwcheichcartref@caerdydd.gov.uk
Benthyca offer i chi neu i grŵp gyda Cadwch Gymru’n Daclus
Os hoffech fenthyg offer i gasglu sbwriel yn eich gweithle, yn eich clwb, neu hyd yn oed gyda’ch ffrindiau – gallwch wneud felly trwy fynd i un o Hybiau Casglu Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus. Mae nifer cynyddol o leoliadau yng Nghaerdydd (a ledled Cymru o ran hynny!) y gallwch fynd iddynt i fenthyg offer.
Mae’r opsiwn hwn yn berffaith ar gyfer diwrnodau gwirfoddoli yn y gweithle, diwrnodau gweithgaredd mewn ysgolion a chlybiau, ac i unrhyw un arall a hoffai roi cynnig ar gasglu sbwriel sydd heb gofrestru’n Ymgyrchydd Sbwriel. Gallwch fenthyg offer fel unigolyn neu ar gyfer grŵp.
Gallwch ddod o hyd i’ch hyb agosaf a chael mwy o wybodaeth yma.
Cyhoeddedig: 25/11/2021
Comments are closed.