Mae tipio anghyfreithlon yn difetha ein cymunedau, gan achosi problem i’n hiechyd, ein cymdeithas a’r amgylchedd. Ond beth yw e, pam mae’n digwydd a beth allwch chi ei wneud i helpu?
Beth yw tipio anghyfreithlon?
Tipio anghyfreithlon yw’r weithred anghyfreithlon o waredu eitemau wrth ymyl ffordd, mewn lôn, mewn ystadau diwydiannol, mewn caeau, mewn afonydd, neu ar dir preifat heb ganiatâd. Gallai hyn gynnwys dodrefn, deunyddiau adeiladu, gwastraff gardd, gwastraff cartref cyffredinol neu hyd yn oed ddeunyddiau peryglus. Mae gwaredu gwastraff fel hyn yn anghyfreithlon ac yng Nghaerdydd gellir rhoi cosbau sefydlog o hyd at £400 am dipio symiau bach o wastraff yn anghyfreithlon ac uchafswm dirwy bosibl o £50,000 neu hyd yn oed ddedfryd o garchar am dipio symiau mwy o wastraff yn anghyfreithlon.
Nid yn unig y mae costau ariannol yn gysylltiedig â thipio anghyfreithlon ond hefyd rhai amgylcheddol a chymdeithasol. Mae tipio anghyfreithlon yn denu llosgwyr, yn achosi i rai plastigau ddod yn rhan o’r ecosystem a chael effaith negyddol ar dwristiaeth. Mae hyn yn golygu bod amser ac arian y gellid ei dreulio/ei wario ar brosiectau eraill i wella ein hamgylchedd a’n cymunedau yn cael eu defnyddio i glirio ar ôl pobl eraill.
Yn ôl StatsCymru yn 2019/20, cyfanswm nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon a gofnodwyd gan Gyngor Caerdydd oedd 5,378 gan gostio £309,241 i glirio a gwaredu’r gwastraff a dipiwyd. Yn 2020/21 cododd hyn i 6896 o achosion o dipio anghyfreithlon a gofnodwyd.
Pam mae’n digwydd?
Felly pam mae tipio anghyfreithlon yn digwydd? Mae gan bobl nifer o resymau cymdeithasol ac economaidd dros dipio gwastraff yn anghyfreithlon. Dyma rai o’r rhesymau hyn:
- Defnyddio gwaredwyr gwastraff anghyfreithlon yn ddamweiniol. Efallai eu bod yn ymddangos fel yr opsiwn rhataf ond yn hytrach na chael gwared ar y gwastraff yn ddiogel ac yn gyfreithiol, efallai y byddant yn ei dipio’n anghyfreithlon. Os caiff y gwastraff hwn ei olrhain yn ôl i chi, gallech gael dirwy am dorri eich dyletswydd gyfreithiol i waredu eich gwastraff yn ddiogel a chael HCB £300 fel dewis arall i erlyniad.
- Efallai na fydd cymunedau’n ymwybodol o’r opsiynau gwaredu gwastraff sydd ar gael neu’n credu nad ydynt yn gallu cael gafael arnynt. Nid yw rhai pobl ychwaith yn deall bod ganddynt ddyletswydd gofal i waredu eu gwastraff eu hunain yn ddiogel ac nid ydynt yn sylweddoli y gall gadael eu gwastraff ar y stryd neu mewn lôn i eraill ei gymryd achosi problemau.
- Yn anffodus, bydd bob amser rai pobl nad ydynt yn dymuno talu unrhyw gostau angenrheidiol ar gyfer gwaredu gwastraff neu nad ydynt yn credu y dylent orfod glanhau eu gwastraff eu hunain. Bu cynnydd mawr yn ddiweddar mewn pobl yn dympio eu bagiau du.
Beth gallwch chi ei wneud i helpu?
- Defnyddiwch holl opsiynau ailgylchu a gwastraff eich cyngor lleol sydd i’w gweld ar wefan y Cyngor ac App Cardiff Gov. Yng Nghaerdydd mae hyn yn cynnwys:
- Os nad ydych yn siŵr o hyd o’r ffordd orau o gael gwared ar eitem gallwch ddefnyddio’r A-Y o ailgylchu defnyddiol.
- Os ydych yn talu rhywun i waredu gwastraff eich cartref, mae’n bwysig eich bod yn sicrhau ei fod yn gludwr gwastraff cofrestredig. I gael gwybodaeth am sut i wneud hyn ewch i wefan Taclo Tipio Cymru. Hefyd, nodwch enw’r cwmni neu’r person (post Facebook / hysbyseb ar gerbyd / taflen a roddwyd), y cerbyd a ddefnyddiwyd a rhif cofrestru’r cerbyd a gofynnwch am nodyn trosglwyddo gwastraff yn nodi manylion y gwastraff a drosglwyddwyd a’r gost a dalwyd. https://flytippingactionwales.org/cy
- Os ydych chi’n adnabod aelod o’r teulu neu ffrind sydd â gwastraff i’w waredu ac nad yw’n siŵr sut, rhowch wybod iddo am yr holl opsiynau hyn.
- Os gwelwch rywun yn tipio gwastraff yn anghyfreithlon, rhowch wybod i ni ar-lein neu defnyddiwch app Cardiff Gov. Mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod am y cerbyd a ddefnyddiwyd a’i rif cofrestru a disgrifiad o’r cerbyd a’r person/au, a hefyd y DYDDIAD, yr AMSER a’r LLEOLIAD. Gellir derbyn fideos teledu cylch cyfyng, ond heb rif cofrestru cerbyd ni ellir olrhain y cerbyd na’r perchennog i gynnal ymchwiliadau.
- Ond peidiwch byth â mynd at dipwyr anghyfreithlon gan y gallai hyn eich peryglu. Maent yn gwneud rhywbeth anghyfreithlon ac ni fyddant am gael eu dal.
Cyhoeddedig: 18/10/2021
Comments are closed.