Pan ddaw’r gwanwyn yn ôl ac mae’r haul yn disgleirio, rydym i gyd am fynd allan a mwynhau ein hunain ym mharciau a mannau gwyrdd ein dinas. Ond pan fyddwn yn barod i adael, beth sy’n digwydd i’n gwastraff?
Gwastraff ym Mharciau Caerdydd
Yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf mae Cyngor Caerdydd yn darparu biniau ychwanegol ac yn ehangu ein tîm o staff glanhau, er mwyn cadw parciau Caerdydd i edrych ar eu gorau. Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad i gadw mannau gwyrdd Caerdydd yn lân ac yn iach i’n trigolion a’r amgylchedd.
Sut gall trigolion helpu?
Mae’r cymorth y mae trigolion Caerdydd yn ei roi i gynnal a chadw ein mannau gwyrdd yn cael ei werthfawrogi’n fawr ac rydym yn siŵr eich bod yn meddwl tybed sut y gallwch helpu.
Un ffordd yw ein helpu i atal biniau rhag gorlenwi, os oes gennych wastraff a bod y bin yn llawn, arhoswch nes i chi ddod o hyd i un arall neu hyd yn oed yn well, ewch ag ef adref i gael gwared arno.
Gall sbwriel o finiau sy’n orlawn gael ei chwythu i’r amgylchedd a bod yn niweidiol i fywyd gwyllt a’r cyhoedd. Yn ogystal, drwy fynd â’ch gwastraff adref rydych yn rhoi’r cyfle iddo gael ei ailgylchu neu os na ellir ei ailgylchu i gael gwared arno’n ddiogel.
Sut i Gynllunio Picnic Diwastraff
Ffordd arall y gallwn ni fel trigolion Caerdydd helpu yw cynllunio i gael Picnics Diwastraff. Dyma rai awgrymiadau syml, defnyddiol y gallwch roi cynnig arnynt:
- Defnyddiwch boteli dŵr, cyllyll a ffyrc cwpanau coffi a chynwysyddion amldro.
- Mae bocsys y gellir eu hailddefnyddio a deunydd lapio cwyr gwenyn/soi y gallwch eu prynu i roi eich bwyd o’r siop neu gartref ynddynt. Fodd bynnag, mae yna hefyd rai dewisiadau amgen gwych y byddwch yn debygol o fod â nhw gartref gan gynnwys bocsys rydych eisoes yn berchen arnynt, jariau jam wedi’u glanhau ar gyfer dipiau neu fyrbrydau, ac efallai cynwysyddion o siop tecawê.
- Mae gwneud eich bwyd gartref ymlaen llaw yn ffordd wych o leihau gwastraff gan y bydd yn debygol o leihau faint o ddeunydd pacio untro rydych chi’n ei ddefnyddio a gall arbed arian i chi hefyd!
- Mae gwastraff bwyd yn fater arall i’w ystyried. Drwy gynllunio faint o ddognau y bydd eu hangen arnoch ymlaen llaw gallwch osgoi gwastraff bwyd. Gallech hefyd fynd â chynwysyddion ychwanegol gyda chi rhag ofn y bydd angen i chi ddod ag unrhyw fwyd dros ben adref.
- Ewch â bag bin gyda chi i gasglu eich gwastraff, gallai hwn fod yn fag bin go iawn neu hyd yn oed unrhyw fagiau siopa untro sydd gennych yn eich tŷ.
- Cymrwch ran yn Ymgyrch Caru Cymru i hyrwyddo lleihau’r gwastraff a gynhyrchir yn ein mannau gwyrdd. Gallwch hefyd rannu eich awgrymiadau gorau gyda’ch ffrindiau a’ch teuluoedd ynglŷn â sut y gallant hefyd gynllunio eu picnics diwastraff eu hunain.
Cyhoeddedig: 25/05/2021
Comments are closed.