Yma yng Nghaerdydd, nid ydym bellach yn gyrru ein gwastraff na ellir ei ailgylchu i’w dirlenwi; caiff ei brosesu i greu ynni a gallwch ddarllen ein blog i ddarganfod mwy. Fodd bynnag, mae dal angen rheoli’r safle tirlenwi ar Ffordd Lamby er mwyn ei gadw’n ddiogel ac i sicrhau y gellir defnyddio’r tir yn y dyfodol.
Fe lwyddon ni i gael gafael ar y rheolwr tirlenwi Gareth Foulkes i ddysgu mwy am weithrediad y gwaith tirlenwi, ei hanes a sut mae’n rheoli’r tir i’w wneud yn ddiogel ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Allwch chi egluro hanes y tirlenwi?
Agorodd y tirlenwi ym 1976 wedi i’r afon Rhymni gael ei gwyro. . Er mwyn adeiladu Ffordd Lamby’r Dwyrain roedd yn rhaid draenio’r corsydd heli a chreu cyfres o Ffosydd Draenio. Roedd Ffordd Lamby’r Dwyrain i fod i gau yn 2002 ond ers iddo agor yn y 70au rydym wedi ailgylchu mwy a mwy, gan ddargyfeirio gwastraff o’r tirlenwi, gan ryddhau mwy o ofod tirlenwi, felly mae wedi cael ei ymestyn hyd haf 2017.
Pa bryd y capiwyd y tirlenwi?
Capiwyd Ffordd Lamby yn llawn yn 2018. Y capio yw’r broses o osod caead ar y tirlenwi i sicrhau nad oes unrhyw halogi yn dianc ac nad oes dim yn mynd iddo nad sydd wedi ei ganiatáu. Mae hefyd yn sicrhau defnydd i’r tirlenwi yn y dyfodol.
Pa fath o brofion sydd angen eu gwneud i reoli’r tirlenwi?
Rydym yn profi’r dŵr wyneb, y dŵr daear, y trwytholch a’r nwyon ymylol. Rydym yn profi’r rhain er mwyn sicrhau nad oes dim yn gollwng o’r tirlenwi. Rhai o’r pethau cyffredin y byddwn yn profi ar eu cyfer yw methan, carbon deuocsid, amonia a metelau trwm amrywiol.
A oes unrhyw beryglon ynghlwm â rheoli tirlenwi?
Mae’r tirlenwi yn cynhyrchu dŵr wedi ei halogi a elwir yn drwytholch, a all fod yn beryglus i’r amgylchedd gerllaw os caniateir iddo ddianc. I atal hyn mae gan Ffordd Lamby waith trin dŵr sy’n casglu’r holl drwytholch a’i drin hyd nes ei fod o safon dderbyniol, cyn ei ollwng yn syth i waith trin dŵr Dŵr Cymru. Golyga hyn na all unrhyw drwytholch effeithio ar yr amgylchedd gyfagos. Mae tirlenwi hefyd yn creu nwy, o’i adael fyddai’n peri llygredd i’r awyr a lefelau peryglus o gemegau os byddai unrhyw un yn yr ardal yn ei anadlu. I atal hyn mae’r tirlenwi wedi ei gapio â lefelau o blastig atal awyr ac mae’r nwy a gaiff ei greu yn cael ei dynnu drwy’r seilwaith casglu nwy a’i losgi ar y safle, gan greu 3.2 megawatt o drydan y flwyddyn.
A oes unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol?
Y cynllun ar gyfer Ffordd Lamby yw i adeiladu fferm solar ar ben y tirlenwi ac i ymestyn llwybr arfordir Cymru o amgylch y safle. Mae trafod ar hyn o bryd ynghylch creu mannau gwybodaeth at ddibenion addysgol ynghylch hanes y tirlenwi.
Mae’n bendant yn beth da fod Gareth gennym i reoli’r tirlenwi a chadw’r amgylchedd leol yn ddiogel rhag y peryglon posib. Mae hefyd yn dda clywed y caiff y tir ei ddefnyddio i greu fferm ynni solar glân.
Cyhoeddedig: | 29/08/2017 |
Comments are closed.