Ystum Taf a Gabalfa yn Caru eu Cartref!
Yr wythnos hon aethom ni i Gabalfa gyda thîm Cadwch Cymru’n Daclus a Chodwyr Sbwriel Ystum Taf a Gabalfa. Roedd yr ardal yn llawn sbwriel pan wnaethon ni ddechrau, ond aeth ein 4 gwirfoddolwr a 2 aelod o staff ati i godi’r sbwriel am awr a hanner a chasglu 12 bag o wastraff. Gwnaeth wahaniaeth amlwg i’r ardal o gwmpas Tafarn y Master Gunner i fyny at hyb Ystum Taf a Gabalfa.
Yn ogystal â chasglu sbwriel yn yr ardal, ddydd Gwener, derbyniodd y grŵp garddio, ‘Fforc a Thrywel’, a leolir yn yr hyb ddysgl blannu gymunedol i’w gosod ar y stryd er mwyn ychwanegu rhagor o fywyd i’r ardal, ac i helpu â’r fenter ehangach ‘green up; clean up’. Mae’r grŵp garddio’n cwrdd bob dydd Gwener yn yr hyb am 10am ac mae bob amser yn chwilio am ragor o bobl i ymuno ac i Garu eu Cartref!
Cyhoeddedig: | 06/09/2017 |
Comments are closed.