Llu o wirfoddolwyr yn glanhau Trwyn Caerdydd
Heddiw, bu’r tîm Caru eich Cartref yn cymryd rhan mewn digwyddiad codi sbwriel cymunedol a drefnwyd gan Cadwch Cymru’n Daclus ar y cyd â eXXpedition Round Britain 2017 yn Nhrwyn Caerdydd. Roedd yn ddigwyddiad gwych gyda 67 o bobl yn bresennol. Casglwyd 96 bag o sbwriel; 24 bag o wastraff ailgylchu a 72 bag o wastraff cyffredinol.
Cefnogwyd y digwyddiad gan lawer o wahanol bobl, gan gynnwys trigolion Trwyn Caerdydd a hyrwyddwyr codi sbwriel ledled y ddinas. Ymhlith y grwpiau eraill a oedd yn bresennol i gefnogi’r digwyddiad oedd Cadw Grangetown yn Daclus, Green Days, Tidy Taff a Grŵp Afonydd Caerdydd.
Roedd un dyn arall arbennig a ddaeth draw, sydd wedi bod yn cerdded llwybr arfordir y DU ers 18 mis, gan godi sbwriel ar ei daith. Ar ôl cerdded o Sir Caerhirfryn i’r Alban y llynedd, aeth Wayne Dixon, a’i gi Koda, tua’r de fis Ionawr eleni, ac maent newydd gyrraedd Caerdydd. Mae ganddo flog anhygoel ynglŷn â’i brofiad yn: https://www.facebook.com/wayne.dixon.7543
Dywedodd ‘nid wyf erioed wedi gweld cymaint â hyn o bobl yn gwirfoddoli. Mae 67 o bobl yn anhygoel. Rwyf wedi bod wrth fy modd yn cerdded drwy Gymru ac yn cwrdd â chymaint o bobl gyfeillgar a dymunol. Mae Wayne yn codi arian i elusen MIND a Chymdeithas Achub Inuit y Gogledd, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r broblem sbwriel ledled y DU.
Cyhoeddedig: | 06/09/2017 |
Comments are closed.