Am wythnos brysur! Dechreuon ni yng Nghaerau yn glanhau Church Road a gwaelod y Hillfort gyda thîm Project Treftadaeth Caer ac ACE. Ymunodd 8 o wirfoddolwyr a merlyn â ni! Er na chododd y merlyn lawer o sbwriel, fe dorrodd y lawnt, a chasglodd y gweddill ohonyn ni 10 bag o sbwriel.
Gwnaeth hyn arwain y ffordd ar gyfer Lansiad ‘Hidden Hilfort’ y diwrnod canlynol gyda llawer o drigolion lleol yn dod i weld yr hyn oedd yn digwydd a sut y gallen nhw gymryd rhan. Roedd gyda ni stondin Carwch Eich Cartref ein hunain a gwnaethom ni gofrestru hyrwyddwr sbwriel newydd gyda Cadwch Gymru’n Daclus.
Ddydd Mercher cynhaliom ni ein cyfarfod rhwydwaith ‘Cadw’n Daclus’ cyntaf erioed. Ymunodd cynrychiolwyr o 12 grŵp â ni a chlywsom ni gan Cadw Adamsdown yn Daclus, Cadw’r Rhath yn Daclus a Canna Collective a roddodd ddiweddariad i ni ar yr hyn y maent wedi’i gyflawni hyd yn hyn yn ogystal â’r gobeithion ar gyfer y dyfodol. Rydym yn gobeithio cynnal y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr a byddwn yn rhoi’r ddiweddaraf i chi.
Ddydd Gwener cynhaliodd Codwyr Pentwyn eu hail sesiwn codi sbwriel yn targedu’r ardal o gwmpas Pant Glas. Gwnaeth grŵp gwych o wirfoddolwyr ymuno â ni. Gwnaethant dorchi eu llewys a chodi llwyth o dipio anghyfreithlon o’r coedwigoedd. Roedd ‘na welyau, matresi, hwfer, tegell a llawer mwy. 4 tryc yn ddiweddarach ac roedd yr ardal yn edrych yn well o lawer. Byddwn yn ôl gyda’r tîm Blitz mewn ychydig wythnosau i gadw pethau i fynd. Cefnogwyd y grŵp gan Gareth o Cadwch Gymru’n Daclus a mwynhaodd pawb fod yn yr awyr agored, yn gwella’r amgylchedd ar hyd y ffordd.
Wedyn cynhaliwyd tair sesiwn codi sbwriel cymunedol dros y penwythnos yn Y Mynydd Bychan, Cathays a’r Rhath. Dyma sesiwn codi sbwriel cyntaf Cymdeithasau Trigolion Y Mynydd Bychan ac am ddigwyddiad. Daeth xx o wirfoddolwyr gan gasglu xx o fagiau sbwriel. Eithaf da am y sesiwn cyntaf ac rydym yn edrych ymlaen at yr un nesaf!
Cyhoeddedig: | 12/049/2017 |
Comments are closed.