Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer y rhai sydd am wneud gwahaniaeth yn eu cymuned. Maent yn cynnig rhwng £300 a £10,000 i gefnogi’r hyn sy’n bwysig i bobl a chymunedau.
Ar 15 Tachwedd 2023 mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn newid. O’r dyddiad hwnnw ymlaen, byddwch yn gallu:
- gwneud cais am hyd at £20,000 mewn un grant
- cael arian ar gyfer eich prosiect am hyd at ddwy flynedd.
Ar ôl 15 Tachwedd 2023, dim ond un grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol y gallwch feddu arno ar y tro. Mae hyn yn golygu os oes gennych grant neu grantiau cyn 15 Tachwedd, ni fydd modd i chi wneud cais am grant arall tan bod eich arian presennol wedi dod i ben. Ni fyddwch yn gallu gofyn am fwy o arian y tu hwnt i’r uchafswm o £20,000.
Os hoffech chi ofyn am fwy na £10,000 mewn un grant hyd at £20,000, dylech aros tan 15 Tachwedd cyn gwneud cais. Hyd at 12 wythnos yw’r cyfnod sydd ei angen o hyd i asesu a thalu ymgeiswyr llwyddiannus.
Cymhwysedd: I weld a ydych yn gymwys ewch yma.
Swm: Grantiau rhwng £300 a £10,000. Yn codi i £20,000 yn fuan.
Dyddiad cau: parhaol
Gwnewch gais drwy: Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru | Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh)
I weld holl gyfleoedd ariannu cyfredol y Loteri Genedlaethol, ewch yma.
Comments are closed.