Mae arian ar gael gan Aviva i sefydliadau sydd am godi hyd at £50,000 a gall achosion cymwys wneud cais ar unrhyw adeg. Ar ôl i’ch cais gael ei gymeradwyo, byddwch yn creu tudalen sy’n esbonio’r prosiect a’i nodau, ac yn ychwanegu eich targed codi arian.
I wneud cais am yr arian hwn, rhaid i chi fod o fewn dau faes ariannu allweddol:
- Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd: Hyrwyddo cymunedau iach a ffyniannus drwy atal effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, paratoi ar eu cyfer a diogelu rhagddynt.
- Lles Ariannol: Helpu pobl i gymryd rheolaeth dros eu lles drwy roi’r adnoddau iddynt fod yn fwy annibynnol yn ariannol ac yn barod ar gyfer unrhyw beth.
A bodloni’r meini prawf cymhwysedd sydd i’w gweld yma.
Yn 2023, maent wedi sicrhau bod £1.8 miliwn ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol. Byddant yn rhoi arian cyfatebol ar gyfer pob cyfraniad unigol a gewch hyd at £250.
Swm:Yn ddibynnol ar ariannu torfol
Gwnewch Gais Drwy: Apply | Aviva Community Fund | Aviva Community Fund
Comments are closed.