Y dydd Sadwrn diwethaf es i ar un o ymgyrchoedd casglu sbwriel wythnosol Cadw’r Rhath yn Daclus. Roedd 16 o wirfoddolwyr gwych yn bresennol ar y dydd a chasglwyd mwy na 30 o fagiau o sbwriel. Gyda chymaint o wirfoddolwyr, roedd modd i ni fynd i’r afael ag ardal eang, a gwneud gwahaniaeth go iawn ar rai o’r strydoedd nad ydy’r grŵp yn cael cyfle i ymweld â nhw yn aml.
Mae’r grŵp wedi bod yn gwneud y gwaith hwn ers 2 flynedd bellach, dan arweiniad 8 o drigolion lleol sy’n rhoi o’u hamser yn rheolaidd i wneud gwahaniaeth i’w hardal leol. Yn ystod y cyfnod hwn maen nhw wedi llwyddo i gasglu’r swm anferthol o 1476 o fagiau sbwriel rhyngddynt. Mae’r budd a geir o’r gweithgaredd hwn yn ymestyn y tu hwnt i wella’r strydlun. Mae Jennifer Jones sy’n arwain y grŵp yn disgrifio ei nod fel “trefnu ymgyrchoedd casglu sbwriel wythnosol a fyddai’n galluogi pobl i wirfoddoli yn eu hardal leol, gwella iechyd a lles pobl yn y gymuned leol, a helpu pobl i deimlo eu bod yn rhan o’u cymuned leol’. A does dim dwywaith eu bod nhw’n gwneud hynny.
Ar ôl awr a hanner o gasglu sbwriel aeth y grŵp draw i Farchnad Ffermwyr y Rhath am baned o goffi a chlonc. Mae elfen gymdeithasol y grŵp yn wych ac mae yna wir ymdeimlad o berthyn. Mae gan y grŵp grysau t hefyd, a gaiff eu rhoi i aelodau ar achlysur eu pumed hymgyrch. Mae hwn yn syniad da, a dim ond pedair ymgyrch arall sydd angen i mi gymryd rhan ynddi cyn y galla i hawlio f’un i!
Yn ogystal â chasglu sbwriel mae’r grŵp yn gofalu am flwch planhigion cymunedol sydd wedi’i osod mewn lleoliad amlwg ar y gyffordd rhwng Albany Road a Donald Street. Mae ei liwiau llachar yn codi calon pawb sy’n mynd heibio iddo. Mae’r blwch planhigion wedi bod mor llwyddiannus nes bod y grŵp nawr yn bwrw ymlaen â’i gynllun blychau plannu ei hun- ac ar hyn o bryd maen nhw’n gofyn i chi fwrw pleidlais drostynt yn eich siop Tesco lleol i’w helpu i godi arian. I ddysgu mwy am weithgareddau’r grŵp ewch i’w tudalen ar Facebook – https://www.facebook.com/KeepRoathTidy/
Os hoffech chi gymryd rhan, mae’r grŵp yn cyfarfod yn wythnosol y tu allan i Swyddfa’r Post ar Albany Road bob dydd Sadwrn am 10:30. Darperir yr holl offer angenrheidiol. Welwn ni chi yno!
Cyhoeddedig: | 26/09/2017 |
Comments are closed.