Yr wythnos hon bûm ar ymweliad ag ysgol St Bernadette ym Mhentwyn i siarad gyda’r plant am y pwysigrwydd o beidio â gollwng sbwriel. Roedd yn ddiwrnod prysur yn cyfarfod â’r 9 dosbarth yn yr ysgol, o’r dosbarth meithrin i Flwyddyn 6. Fe ddysgon ni lawer o ffeithiau am effaith gollwng sbwriel ar yr amgylchedd, yn enwedig y bywyd gwyllt ardderchog sy’n byw yn lleol. Ac fe lwyddodd dosbarth Blwyddyn 6 i ddyfalu i’r dim bron faint o amser y mae gwahanol fathau o sbwriel yn ei gymryd i bydru. Pwy a ŵyr y gall can diod coke gymryd hyd at 1000 o flynyddoedd?!
Fe ddysgon ni hefyd am y pethau y gellir eu hailgylchu, beth ddylid ei roi yn y biniau gwastraff bwyd a beth sydd angen ei daflu. Roedd y plant wedi synnu o glywed nad ydym yn defnyddio safleoedd tirlenwi bellach. Yn hytrach, mae’r holl wastraff cyffredinol yn cael ei anfon yn syth i Viridor ac rydym yn ei losgi. Yna caiff ei droi’n agregau ar gyfer ffyrdd.
Yn ogystal â chasglu sbwriel yn yr ysgol, bu Blwyddyn 6 hefyd yn mynd i’r afael â’r lonydd lleol, gan lenwi dau fag yn llawn o bacedi creision, poteli a chaniau ac unrhyw bethau eraill y daethon nhw ar eu traws. Yn yr ysgol fe godon ni 4 bag o sbwriel, ac fe wnaeth plant y feithrinfa sicrhau bod eu poteli llaeth yn cael eu rhoi yn syth yn y bin ailgylchu.
Roedd hwn yn ddiwrnod da, ac yn ddechrau gwych i wythnos Eco’r ysgol.
Cyhoeddedig: | 11/10/2017 |
Comments are closed.