Mae eich cynllun Pencampwyr Carwch Eich Cymuned bellach yn fyw! Lansiom y fenter yn Hyb Grangetown ar fore dydd Mercher heulog a daeth 15 o bobl i ddathlu’r achlysur gyda ni. Mae’r cynllun yn galluogi pobl i gofrestru i gael cerdyn Llyfrgell Carwch eich Cymuned ac wedyn maen nhw’n gallu benthyg offer casglu sbwriel gan yr hyb ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw.
Roedd yn ddiwrnod gwych, ac agorodd y Cynghorydd Henshaw’r achlysur drwy ddiolch i bawb fu’n bresennol ac esbonio mor hapus oedd hi gyda’r cynllun. A hithau’n wirfoddolwr gydag ymgyrch Cadw Sblot yn Daclus, mae ehangu cyfleoedd i wirfoddoli dros yr amgylchedd i ragor o bobl ledled Caerdydd yn rhywbeth pwysig dros ben yn ei barn hi. Ar ôl y cyflwyniad, aethom allan i gasglu sbwriel yn yr ardal a chasglom 28 o fagiau cyn pen awr. Yn ffodus, roedd te a chacennau’n ein croesawu’n ôl ar ôl ein hymdrechion.
Yn gwmni i ni yn y lansiad roedd cynrychiolwyr o ymgyrch Cadw Grangetown yn Daclus a Chadw Sblot yn Daclus, ac Ymgyrchwyr Sbwriel Cadw Cymru’n Daclus o ledled y ddinas. Roedd yn wych gweld pawb yn dod at ei gilydd yn y digwyddiad ac yn ysbrydoli gyda’u storïau.
Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cymaint o wahaniaeth yn eu cymunedau lleol, boed drwy godi sbwriel neu drwy fywiogi eu hardaloedd gyda gerddi neu flychau plannu. Prin y caiff cymwynasau bychain sylw, ond hebddyn nhw, fyddai’n cymunedau ddim cystal llefydd i drigolion a gweithwyr.
Daeth ein gwirfoddolwyr newydd, Tommy ac Alina, atom ar y diwrnod ac roedden nhw eisoes yn edrych ymlaen yn fawr at dorchi llewys a thacluso’r ardal o amgylch yr hyb yn rheolaidd. Yn ogystal â theimlo eu bod wedi cyflawni rhywbeth drwy wneud y strydoedd yn lanach, fe wnaethon nhw fwynhau cwrdd â phobl newydd.
Cyhoeddedig: | 02/11/2017 |
Comments are closed.