Yr wythnos ddiwethaf, gwnaeth Cymdeithas Tai Wales & West fy ngwahodd i un o’u cynlluniau lloches i helpu preswylwyr i ‘Sgubo’r Stryd’. Roedd yn benwythnos hyfryd. Fe gwrddes i â phobl hyfryd ac roedd y lle’n edrych yn wych ar ôl i ni fennu. Fe ddaethon ni o hyd i froga hyd yn oed!
Ond seren y sioe oedd Pete. Mae Pete wedi bod yn byw yn y cynllun ym Mhontcanna ers ychydig dros 10 mlynedd, ac roedd yn dwlu bod mas yn yr awyr iach. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae ei iechyd wedi dirywio a dyw e heb allu gwneud cymaint ag y byddai wedi hoffi ei wneud. Ond rhoddodd y sesiwn Sgubo’r Stryd y cyfle perffaith iddo gymryd rhan, ac roedd wrth ei fodd!
Ochr yn ochr â rheolwr y cynllun, helpodd Pete i glirio dail o’r ardd a gorchuddio’r dodrefn ar gyfer y gaeaf. Dyma pan ddaethon ni o hyd i froga bach syn, ond yn ddigon buan fe sbonciodd yn ôl i’w gartref yng nghanol y planhigion. Dywedodd Pete fod aelodau’r cynllun yn gweld llond lle o fywyd gwyllt, o bryfed i adar, ac mai dyma pam ei fod yn dwlu ar y lle cymaint.
Nesaf fe ddechreuon ni ganolbwyntio ar y maes parcio. Gall dail gwlyb fod yn arbennig o beryglus i bobl hŷn felly gwnaethom glirio cymaint â phosibl ohonynt. A diolch i sgiliau sgubo rhagorol Pete, fe gasglon ni 8 bag bin. Yr ardd ffrynt oedd y lle olaf i gael ei sgubo ac yna fe wnaethom gwrdd â phreswylydd a oedd yn plannu bylbiau ar gyfer y gaeaf mewn planwyr hyfryd i ddod â bach o liw i’r ardd. Cafodd 2 fag o ddail eu casglu, gan greu llwybr diogel o’r ffordd i’r fynedfa flaen.
Wedi hynny, fe gawsom baned a chacen haeddiannol a chwrdd â’r trigolion eraill a wnaeth ein llongyfarch ar ein gwaith gwych. Roedd yn hyfryd cael eistedd lawr gyda chymaint o bobl – roedd gan bob un stori i’w rhannu am ei amser ar y cynllun. Roedd Pete wrth ei fodd ei fod wedi llwyddo i wneud cymaint – y mwyaf o ymarfer corff roedd wedi’i wneud mewn dros ddwy flynedd. Roedd yn teimlo’n well am ei hun ar ôl gwneud hyn, ac roedd yn gobeithio y byddai’n ei helpu i gysgu’n well. Ers y sesiwn Sgubo’r Stryd, mae mwy o drigolion wedi datgan diddordeb mewn cymryd rhan, felly rydym wedi trefnu dyddiad arall ar gyfer diwedd Tachwedd.
Cyhoeddedig: | 08/11/2017 |
Comments are closed.