Noddodd Greggs yn Llanrhymni ei sesiwn codi sbwriel gymunedol gyntaf ac roedd yn wych! Gadawodd tri aelod o dîm Greggs eu gwaith ar fore oer a hwyliog i ymuno â 6 gwirfoddolwr cymunedol, yn ogystal â’r eco-bwyllgor gwych o Ysgol Gynradd Sant Cadoc. Cymerodd 13 o bobl ifanc, ynghyd â 3 athro, ran yn y gwaith i helpu i lanhau’r ardal leol.
Cawson ni amser hyfryd a llwyddon ni i lanhau 24 bag o sbwriel yn yr ardal o gwmpas ardal Countisbury gan roi golwg newydd a glan iddi. Cafodd bawb amser wych ac roedd gweld pawb yn gweithio gyda’i gilydd yn hyfryd. Roedd trigolion lleol yn gadarnhaol iawn am y sesiwn codi sbwriel a chafodd y plant eu canmol yn fawr am y gwaith gwych a wnaethon nhw.
Ar y diwedd, aethon ni i gyd i Greggs am baned am ddim i ddathlu llwyddiant y bore, gyda’r plant yn cael siocled poeth haeddiannol iawn, a’r gweddill ohono ni’n cael coffi. Diolchodd y cwsmeriaid i ni a dywedodd llawer ohonyn nhw yr hoffen nhw ymuno â ni’r tro nesaf.
Roedd un gwirfoddolwr mor falch ar y gwaith ei bod hi wedi cofrestru i ddod yn Hyrwyddwr Sbwriel gyda’n partneriaid Cadwch Gymru’n Daclus. Roedd hi wrth ei bodd o fod yn yr awyr agored a chyfarfod â phobl, yn ogystal â gwybod y wahaniaeth y mae’n ei wneud i olwg a theimlad yr ardal. Mae’n edrych ymlaen at wneud fwy!
Yn ogystal â chynnal y sesiwn codi sbwriel, yr ydym yn gobeithio ei gwneud eto yn y Flwyddyn Newydd, mae Greggs hefyd wedi noddi bin sbwriel y tu allan i’w siop i annog pobl i barhau i gadw Llanrhymni yn lan.
Mae Ysgol Gynradd Sant Cadoc hefyd yn yr awyr agored yn gwneud gwaith eto’n fuan ac wedi ymrwymo o gadw’r ysgol a’r amgylchedd lleol yn wyrdd, glan ac effeithlon o ran ynni. Bydd y tîm Carwch Eich Cartref, a’n tîm ailgylchu, hefyd yn cynnal gweithdy yn yr ysgol i gynnwys mwy o blant a’u rhieni.
Cyhoeddedig: | 05/12/2017 |
Comments are closed.