Mae pob un ohonom o bryd i’w gilydd yn dod ar draws deunydd pacio rydym yn ansicr p’un a ellir ei ailgylchu neu beidio. Ar adegau, bydd awdurdodau lleol yn mynnu na allant ailgylchu eitem er bod symbol ailgylchu ar y deunydd pacio. Does dim syndod ein bod wedi drysu! Felly, rydym wedi cymryd golwg manylach ar y symbolau hyn er mwyn dod i ddeall y gwahanol symbolau ailgylchu.
![]() |
Dolen Mobius
Dyma symbol rhyngwladol i esbonio bod modd ailgylchu’r deunydd hwn rhywle yn y byd. Fodd bynnag, nid yw’n ystyried prosesau ailgylchu lleol. Mae’n werth gwirio’r hyn y mae eich Cyngor lleol yn ei ailgylchu, felly. |
![]() |
Dot Gwyrdd
Nid symbol ailgylchu yw hwn mewn gwirionedd. Caiff ei ddefnyddio mewn rhai gwledydd Ewropeaidd (nid yn y Deyrnas Unedig) i ddangos bod y cynhyrchydd wedi talu treth er mwyn cyfrannu at ailgylchu’r deunydd pacio. Felly, gwelir y symbol hwn gan amlaf ar ddeunyddiau pacio a gynhyrchwyd mewn gwledydd eraill yn Ewrop.
|
![]() |
Symbol Alwminiwm y Gellir ei Ailgylchu
Gweler y symbol hwn gan amlaf ar ganiau a chynwysyddion alwminiwm i atgoffa cwsmeriaid bod y deunydd hwn yn cael ei ailgylchu’n helaeth. Caiff ffoil bwyd ei drin yn wahanol oherwydd mae’n aml yn cynnwys tipyn o weddillion bwyd ac mae’n anodd gwahanu’r rhain o ddeunyddiau eraill mewn bagiau ailgylchu cymysg. Ailgylchwch eich caniau!
|
![]() |
Cod Adnabod Resin
Pwrpas y symbol hwn yw galluogi proseswyr plastig i nodi o ba fath o blastig y cafodd y cynnyrch ei greu er mwyn eu dosbarthu i wahanol gategorïau. Nid yw’r symbol hwn yn rhoi gwybod i brynwyr a oes modd ailgylchu’r math hwn o blastig yn lleol felly gwiriwch pa fathau o blastig y gall eich Cyngor lleol eu hailgylchu. |
![]() |
Y Tidyman
Nid symbol ailgylchu yw hwn. Ei nod yw annog prynwyr i gael gwared â’u gwastraff yn gyfrifol er mwyn osgoi taflu sbwriel. Gan amlaf, gweler y symbol hwn ar gynnyrch y gellir eu bwyta neu eu hyfed wrth deithio. |
![]() |
Logo Eginblanhigyn
Mae’r logo eginblanhigyn yn profi bod cynnyrch wedi’i ardystio’n “gompostadwy’n ddiwydiannol” yn ôl y safon Ewropeaidd EN13432. Mae hyn yn golygu y bydd y cynnyrch yn compostio dan amodau rheoledig fel tymheredd, lleithder ac amser. Mae hyn fel arfer yn cael ei gyflawni mewn cynwysyddion compostio diwydiannol ac nid dan amodau compostio “amgylchynol” agored. Cofiwch wirio’r broses a ddefnyddir gan eich Cyngor lleol! |
![]() |
TerraCycle
Mae Terracycle yn gwmni sy’n casglu ac yn ailgylchu deunydd pacio a deunyddiau nad ydynt fel arfer yn cael eu derbyn gan gasgliadau’r Cyngor. Os gwelwch y symbol hwn, bydd angen i chi ddod o hyd i’ch lleoliad gollwng agosaf drwy wefan Terracycle
|
![]() |
Labelu Ailgylchu ar y Pecyn
Dyluniwyd y labeli hyn yn arbennig ar gyfer prynwyr y Deyrnas Unedig felly dyma’r rhai i chwilio amdanynt! Maen nhw’n nodi’r deunyddiau ailgylchu cyffredin y mae modd eu hailgylchu gartref, ond maen nhw hefyd yn tynnu sylw at y deunyddiau y dylid eu gwirio â’r awdurdod lleol yn gyntaf, gan fod casgliadau ailgylchu yn amrywio ledled y wlad. Os nad ydych yn gweld un o’r labeli hyn, gallwch gysylltu â’r cwmni (mae’r rhan fwyaf o ddeunyddiau pacio yn cynnwys rhif y linell gymorth) ac argymell defnyddio’r math hwn o label yn y dyfodol. |
Comments are closed.