Good Gym – Sesiwn Codi Sbwriel yn Llandaf
Adroddiad wedi ysgrifennu gan Lucy
Rhowch fwy i ni!! Ar ôl ras wlyb ym Mharc Caerdydd, roedd 13 rhedwr GoodGym Caerdydd am gael mwy! Pellter hirach i’w redeg a mwy o weithredoedd da ar gyfer targed her mis Ionawr. Felly rydym yn rhedeg ychydig fwy na milltir i Hyb Ystum Taf a Gabalfa ar gyfer sesiwn codi sbwriel.
Wrth i ni gyrraedd, gwnaethom gwrdd â Jen, sy’n gweithio yn yr Hyb, oedd gyda dŵr yn barod i ni. Esboniodd Jen yr hyn y byddem yn ei wneud yn rhan o’r dasg a pha strydoedd y byddem yn canolbwyntio arnynt yn ystod y sesiwn codi sbwriel a rhoddodd hi offer i ni ei ddefnyddio. Gwnaethom gyfrif faint o bobl oedd yno a chroesawom redwr newydd o’r enw Nicola i’r daith redeg…gobeithio i chi ei mwynhau ac y byddwch yn ôl eto (gobeithio na fydd y tywydd ofnadwy yn eich troi oddi wrth gymryd rhan!)
Popeth yn ymwneud â sbwriel! Ar ôl briff iechyd a diogelwch (gan gynnwys peidiwch â cheisio codi pobl eraill fel sbwriel) a llun grŵp y tu allan i’r Hyb dechreuom ar ein taith fel catrawd yn mynd i’r gad gyda’n ffyn codi sbwriel a’n bagiau plastig pinc. Gweithiodd y rhan fwyaf ohonom mewn parau i fynd i’r afael ag ochr benodol o’r stryd ac aeth eraill i’r afael â’r rhan weiriog ar hyd y llain ganol. I sicrhau eu bod yn ymarfer eu cyrff yn llawn yn ystod y dasg, gwnaeth Fiona a Lucy nifer o ragwthion wrth iddynt gasglu eu sbwriel (gweler y lluniau) a chreodd eu hymroddiad at gadw’n heini argraff ar yr hyfforddwr Ben. Cyfrodd Darren, gan barhau gyda’r thema o’i sesiwn godi sbwriel yn Hyb Grangetown ar nos Iau, nifer y stympiau sigarét a gasglodd…sef 475! Da iawn, Darren! Daeth o hyd i dywel traeth Hulk hefyd a thynnodd ei lun ei hun gan roi ‘Hulk smash’ yn enw iddo. Yn y cyfamser, daeth Aimee ac Eileen o hyd i dair potel wag o fodca (y maent yn hawlio iddynt ddod o hyd iddynt ac nad ydynt wedi’u hyfed eu hunain dros y Nadolig). Ar ôl i fagiau dechrau cael eu llenwi gyda pob math o eitemau (gan gynnwys rhan o beipen fwg y daeth Nicola o hyd iddi) edrychom i lawr y stryd a gwelom grŵp o godwyr sbwriel yn dod tuag atom. Wedi siarad â nhw, dysgom mai gwirfoddolwyr o Cadwch Gymru’n Daclus oeddent ac roeddent yn falch o’n gweld yn eu helpu i lanhau strydoedd Ystum Taf.
Ar ôl glanhau ein strydoedd dynodedig am hanner awr, roedd yn amser mynd yn ôl i’r hyb twym i edrych ar y sbwriel yr oeddem wedi’i gasglu. Roeddem wedi caglu 10 bag o sbwriel! Roedd Jen yn ddiolchgar iawn i ni am ddod i helpu a gwella’r ardal leol.
Nesaf… Aeth y rhedwyr, oedd am gael mwy o hyd, i mewn i’r Hyb am egwyl 5 munud i fynd i’r toiled ac i gofrestru ar gyfer sesiwn grŵp rhif 2 y diwrnod…… Nid oes modd stopio GoodGym Caerdydd!
Adroddiad wedi ysgrifennu gan Lucy
Cyhoeddedig: | 26/01/2018 |
Comments are closed.