Yr wythnos hon yw Wythnos Gwirfoddolwyr 2023, sef wythnos pan fyddwn yn cydnabod ein holl wirfoddolwyr gwych a’ch cyfraniad i’n cymunedau. Hoffem ddiolch i bob un ohonoch sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i’n dinas. Mae’r amser a’r ymroddiad rydych chi i gyd yn ei roi yn wirioneddol ysbrydoledig, ac mae’n anrhydedd i ni weithio ochr yn ochr â chi i gyd.
Diolch i grwpiau Cymunedol anhygoel “Cadwch yn Daclus” ar draws y ddinas sy’n ysbrydoli ac yn grymuso cymunedau i ddod at ei gilydd i weithio ar y cyd trwy eu gweithredoedd a’u hangerdd. Diolch i Ymgyrchwyr Sbwriel ac Arwyr Sbwriel anhygoel Carwch Eich Cartref (CEC) sy’n cymryd rhan yn annibynnol ond sy’n ysbrydoli eraill i gymryd rhan hefyd – mae dros 600 o Hyrwyddwyr Sbwriel a thros 300 o Arwyr Sbwriel erbyn hyn.
Diolch i’n Hysgubwyr Mawr, a gliriodd dros 1500 o fagiau o ddail o’r strydoedd y tymor diwethaf. Diolch i’n holl Ymgyrchwyr Gadael Olion Pawennau yn Unig a’ch ffrindiau pedair coes sydd yn arwain trwy esiampl ac yn cefnogi eich cymunedau i ofalu am lwybrau cerdded cŵn yn y ddinas. Mae dros 200 ohonoch chi nawr! Diolch i holl Hyrwyddwyr Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus a sefydliadau lleol sy’n cael cymaint o effaith, gan weithio mewn partneriaeth â mentrau Cadwch Gymru’n Daclus i wella’ch ardaloedd lleol. Ac yn olaf, diolch hefyd i’r holl ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn casglu sbwriel gyda’u myfyrwyr yn eu cymunedau lleol, gan ysbrydoli cenhedlaeth newydd o aelodau gofalgar o’r gymuned.
Ar gyfer yr holl weithgarwch hwn a mwy, mae’r hyn rydych wedi’i gyfrannu yn aruthrol ac rydych i gyd yn anhygoel. Mae pob un cam a gymerir gennych yn gwneud Caerdydd yn lle gwell. Rydym wedi casglu ychydig o wybodaeth am yr hyn rydych wedi’i gyflawni eleni!
Dymuna ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Strydlun, Matt Wakelam, rannu’r neges hon gyda chi:
“Diolch am wirfoddoli i gefnogi ‘Carwch eich Cartref’ ar draws Caerdydd. Gan weithio gyda’n gilydd gallwn gyflawni pethau gwych. Mae ‘Carwch eich Cartref’ wedi dangos i mi nad yw gwirfoddoli yn ymwneud â’r amser ond yn hytrach am y galon a dyna pam mae pob gwirfoddolwr yn ysbrydoledig.”
Hoffem hefyd ddiolch i’r holl bartneriaid, gwirfoddolwyr a’n grŵp cynghori sy’n gweithio ar y cyd â ni i lunio Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon i Gaerdydd ar gyfer 2023-2027.
Comments are closed.