Pam Ail-lenwi?
Nod ymgyrch Ail-lenwi ydy normaleiddio ail-lenwi a’i gwneud cyn hawsed â phosibl i bobl ddod o hyd i ddŵr yfed am ddim o safon uchel ar eu hynt. Y nod ydy creu rhwydwaith cenedlaethol o fanwerthwyr y stryd fawr, caffis, hybiau trafnidiaeth a busnesau sy’n cynnig gadael i’r cyhoedd ail-lenwi eu poteli dŵr am ddim ym mhob dinas a thref fawr. Mae Ail-lenwi’n cael ei gyflwyno trwy’r wlad gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a chwmnïau dŵr fel Dŵr Cymru, Hafren Dyfrdwy; bydd Ail-lenwi yn cynyddu’r cyfleoedd i gael dŵr yfed o safon uchel yn sylweddol. Ni fu hi fyth yn haws cyfnewid eich potel blastig untro am flas rhad ac am ddim o ogoniant mynyddoedd Cymru.
1. Atal llygredd plastig. Yn ôl Pwyllgor Craffu ar yr Amgylchedd, mae faint o boteli dŵr a brynir wedi dyblu dros y 15 blynedd diwethaf a defnyddir dros 7 biliwn o boteli dŵr bob blwyddyn yn y DU. Petai pawb yn y DU yn ail-lenwi unwaith yr wythnos, byddem yn osgoi creu 340 miliwn o boteli plastig bob blwyddyn. Ar ben hynny, mae swm cywilyddus o 700,000 o botelir plastig yn cael eu taflu bob dydd yn y DU. Mae llawer o’r rhain yn mynd i’r môr. Poteli plastig bellach yw traean o’r holl lygredd plastig yn y môr ac mae dros 159 potel blastig i bob milltir o draeth yn y DU.
2. Arbed arian. Trwy’r byd, mae disgwyl bydd y diwydiant dŵr potel werth $215.12 biliwn erbyn 2025 ac yn y DU rydym yn gwario dros $2.4 biliwn y flwyddyn arno. Dydy hynny ddim yn syndod pan ystyriwn ein bod yn prynu tua thair potel bob wythnos, BOB blwyddyn. Mae ail-lenwi eich potel amldro yn ffordd hawdd o arbed arian oherwydd mae dŵr potel yn costio rhwng 500 a 1000 gwaith yn ddrytach na dŵr tap!
3. Helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Amcangyfrifwyd bod cynhyrchu plastig a llosgi plastig yn creu tua 400 miliwn tunnell o CO2 bob blwyddyn ac mae dŵr potel 900 gwaith yn fwy carbon-ddwys na dŵr tap. Mae’n cymryd dros 8 litr o ddŵr i greu un botel, sy’n ffordd anhygoel o aneffeithlon o ddefnyddio adnoddau, ac mae hynny cyn meddwl am eu hanfon mewn awyren i ben arall y byd!
Amcanir bydd yr ymgyrch Ail-lenwi wedi atal 100 miliwn potel untro rhag mynd i’n ffrwd wastraff erbyn diwedd 2019.
Beth allwch chi ei wneud? Lawrlwytho’r ap am ddim i weld ble mae’r pwynt ail-lenwi agosaf neu edrychwch am sticeri ffenestr Ail-lenwi. Codwch botel ail-lenwi a chychwyn gwneud!
Ai busnes ydych chi? Beth am gofrestru i ddod yn orsaf Ail-lenwi? Mae’n gyflym a hawdd ei wneud, felly ewch i wefan Ail-lenwi: https://refill.org.uk/
Cyhoeddedig: |
08/07/2019 |
Comments are closed.