Mae’n bwysig bod pawb yn ailgylchu a chompostio cymaint o wastraff â phosibl.
Gallwn adfer y gwastraff hwn trwy dechnolegau trin i wneud cynhyrchion defnyddiol.
Gwyliwch y fideo i ddarganfod sut rydym yn trosi’ch gwastraff yn ynni a deunyddiau crai.
Mae’n bwysig bod pawb yn ailgylchu a chompostio cymaint o wastraff â phosibl.
Gallwn adfer y gwastraff hwn trwy dechnolegau trin i wneud cynhyrchion defnyddiol.
Gwyliwch y fideo i ddarganfod sut rydym yn trosi’ch gwastraff yn ynni a deunyddiau crai.
Mae gwastraff bwyd yn adnodd gwerthfawr a ddefnyddir i gynhyrchu ynni gwyrdd yma yng Nghaerdydd. Mae’n creu trydan ar gyfer cartrefi, ysgolion a busnesau lleol.
Mae gwastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni i bweru ein cartrefi gan ddefnyddio proses o’r enw treulio anaerobig. Mae hyn yn digwydd yma yng Nghaerdydd.
Edrychwch ar y fideo i ddysgu mwy am y broses.
Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am sut mae gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu.
Mae’r cyngor yn casglu ailgylchu gan ddefnyddio system ar wahân, lle mae deunyddiau’n cael eu rhannu i mewn i gynwysyddion amldro. Mae hyn wedi:
Unwaith bydd y cyngor yn casglu eich ailgylchu a deunyddiau sydd wedi cael eu didoli, maent yn cael eu hailbrosesu yn dibynnu ar y math o ddeunyddiau. Gwyliwch y fideos i gael gwybod mwy:
Yna mae gweithgynhyrchwyr yn prynu’r deunyddiau hyn ac yn gwneud nwyddau newydd gyda nhw.
Gallwch weld beth sy’n digwydd i ailgylchu a gesglir gan y Cyngor ar wefan Fy Ailgylchu Cymru.
Nid ydym yn anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi yng Nghaerdydd.
Yn hytrach nag anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi, rydym yn gweithio gyda chwmni o’r enw Viridor, sy’n troi ein gwastraff yn ynni.
Os hoffech chi weld beth sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni, trefnwch ymweliad â safle Viridor yng Nghaerdydd?
Oeddech chi’n gwybod bod eich gwastraff gardd yn cael ei droi’n gompost, y gellir ei ddefnyddio i dyfu mwy o blanhigion?
Trwy ailgylchu gwastraff gardd, rydym yn helpu’r amgylchedd. Roedd effaith amgylcheddol ailgylchu gwastraff gardd mewn blwyddyn yn cyfateb i gymryd bron i 2000 o geir oddi ar y ffordd!
Dysgwch am wasanaethau gwastraff y Cyngor.

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.
© Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd
Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd