Skip to main content

Mwy nag Ailgylchu

Mae Cymru yn ail yn y byd o ran ailgylchu! Ond rydyn ni eisiau gwneud mwy. Nod Strategaeth Mwy Nag Ailgylchu Llywodraeth Cymru yw adeiladu ar y sylfaen gadarn hon, gan symud tuag at economi gylchol.

Nod y strategaeth yw cyflawni diwylliant cyffredinol o:

  • ailddefnyddio,
  • atgyweirio, ac
  • ehangu cyfleoedd i ailgylchu hyd yn oed mwy.

Mae sawl ffordd o gymryd rhan.

Ailddefnyddio

Dysgwch beth allwch chi ei ailddefnyddio, sut a ble.

Y Caban yn Ffordd Lamby

Mae’r Caban yn siop ailddefnyddio gymunedol sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Ailgylchu Ffordd Lamby. Gallwch brynu neu roi eitemau nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach yn y siop, sy’n cael ei rhedeg gan Wastesavers.

Ar gyfer oriau agor ac eitemau sydd ar gael, chwiliwch am ‘The Cabin at Lamby Way’ ar Facebook.

 

Llyfrgell Pethau Benthyg

Mae llyfrgelloedd Benthyg yn storio ac yn cynnig eitemau:

  • nad ydych yn eu defnyddio’n aml iawn,
  • nad oes gennych le ar eu cyfer, neu
  • nad ydych yn gallu eu fforddio.

Gallwch fenthyg nifer o eitemau defnyddiol, gan gynnwys:

  • offer garddio a gwaith y cartref,
  • offer gwersylla, a
  • llawer mwy.

I chwilio am eitemau neu gyfrannu, ewch i wefan Benthyg Cymru.

Llyfrgell Cewynnau Brethyn Caerdydd

Mae cewynnau brethyn y gellir eu golchi yn ddewis amgen ecogyfeillgar i gynhyrchion untro.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio cewynnau brethyn y gellir eu golchi, mae Llyfrgell Cewynnau Brethyn Caerdydd yn eu darparu.  Mae’n cynnig:

  • cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol ar gewynnau amldro, a
  • citiau y gellir eu llogi, sy’n rhoi’r cyfle i chi dreialu cewynnau amldro am fis.

I gael rhagor o wybodaeth, chwiliwch am ‘Cardiff and Caerphilly Nappy Library by Wastesavers’ ar Facebook, neu e-bostiwch nctnappy@gmail.com.

Newid i gynhyrchion amldro

Canfu The Big Plastic Count fod bron i 100 biliwn o ddarnau o ddeunydd pacio plastig yn cael eu taflu gan aelwydydd y DU bob blwyddyn.

Er mwyn helpu i fynd i’r afael â hyn, pam na wnewch chi:

  • rhoi’r gorau i ddefnyddio plastigau untro, a
  • rhoi cynnig ar gynhyrchion amldro neu heb ddeunydd pacio yn lle hynny.

I edrych am ddewisiadau amgen, ewch i wefan City to Sea.

Trwsio

Dysgwch beth allwch chi ei drwsio, sut a ble.

 

Caffi Trwsio Cymru

Gallwch ddefnyddio caffis trwsio i gael eich eitemau cartref wedi’u trwsio am ddim.

Mae’r digwyddiadau rheolaidd hyn yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr, sydd fel arfer yn gallu trwsio:

  • dillad,
  • eitemau trydanol y cartref,
  • gwaith coed,
  • teganau plant,
  • dodrefn, a
  • beiciau.

Ewch i wefan Caffi Trwsio Cymru i ddod o hyd i ddigwyddiadau lleol. Galwch heibio am baned a chael rhywbeth wedi’i drwsio!

 

Cyfeiriadur Atgyweirio

Mae Effeithlonrwydd Atgyweirio Cymru yn cynnig Cyfeiriadur Atgyweirio. Gall yr adnodd ar-lein ei gwneud hi’n haws dod o hyd i siop atgyweirio yn eich ardal leol ar gyfer eitemau fel:

  • dillad,
  • teclynnau,
  • dodrefn,
  • ffonau, cyfrifiaduron llechen a chonsolau, a
  • mwy.

Mae busnesau a restrir yn y Cyfeiriadur Atgyweirio wedi’u dewis yn benodol a gydag enw da.

Chwiliwch am wasanaethau atgyweirio lleol, neu gwnewch gais i gynnwys eich busnes ar wefan Effeithlonrwydd Atgyweirio Cymru.

Ail-lenwi

Dysgwch beth allwch chi ei ail-lenwi, sut a ble.

Compostio

​Os hoffech chi ddechrau compostio gartref, gallwch brynu biniau compost, abwydfeydd a chasgenni dŵr o siopau nwyddau haearn a chanolfannau garddio.

  • Gallwch brynu bin compostio neu greu un eich hun. Sicrhewch fod gan y bin gaead i atal y compost rhag llenwi â dŵr pan fydd hi’n bwrw glaw.
  • Rhowch eich toriadau gardd y gellir eu compostio a’ch gwastraff bwyd i’w gompostio, fel pilion, plisgyn wyau a bagiau te, yn y bin compost​.​
  • Bydd taenu rhywfaint o gompost parod arno yn cyflymu’r broses. Gallwch hefyd brynu nwyddau i gyflymu’r broses mewn canolfannau garddio.
  • Cadwch y pentwr compostio yn llaith; dylai fod yn damp wrth ei gyffwrdd, ond ddim yn wlyb.
  • Gadewch y pentwr am tua wythnos, bydd y compost yn dechrau pobi a chynhesu. Mae hyn yn rhan o’r broses bydru naturiol.
  • Ychwanegwch aer i’r pentwr drwy ei droi â fforch ardd.
  • Bydd y pentwr yn lleihau. Mae hyn yn arwydd da bod compost yn cael ei ffurfio. Os bydd y compost yn dechrau mynd yn seimlyd, ychwanegwch gardfwrdd gan y bydd yn ychwanegu ffibr.
  • Os cymysgwch y pentwr bob wythnos, dylai fod yn barod mewn tua deufis. Os na throwch y cymysgedd gall gymryd hyd at flwyddyn i ffurfio compost.
Food waste

Ail-lenwi Caerdydd

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd