Gweld pob hyb

Pen-blwydd 10 oed Sblot Taclus – Codi Sbwriel Cymunedol

Drigolion mwyn Sblot

Beth am Garu Eich Cartref a chymryd rhan mewn ymgyrch godi sbwriel cymunedol. Mae’n gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i’r ardal leol, yn ogystal â dod i adnabod eich cymdogion ychydig yn well.

Ble: Parc Moorland, Swansea Street

Caiff yr holl offer ei ddarparu, ac mae croeso cynnes i blant ddod hefyd (mae crafangau sbwriel llai gennym ar gyfer dwylo bach). Rhaid i bob plentyn aros o dan oruchwyliaeth rhiant neu warchodwr yr holl amser.

Gwisgwch esgidiau addas, a sicrhau eich bod yn gwisgo dillad sy’n addas i’r tywydd.

Gallwch ddysgu mwy am y digwyddiad yma:

Keep Splott Tidy 10th Birthday Litter Pick! | Facebook

Digwyddiad cymunedol

Awst 20, 2026

at 6:00 pm - 7:00 pm

Parc Moorland

Parc Moorland
Swansea Street
CF24 2ET