Skip to main content

Arbed, ailddefnyddio, ailgylchu

Mae Cymru yn ail yn y byd o ran ailgylchu!

Dysgwch fwy am:

Woman putting empty plastic bottle in recycling bin in the kitch

Pam gwahanu ein hailgylchu?

Gall newidiadau i’r ffordd rydyn ni’n rhoi gwastraff ailgylchu ein cartrefi allan bob wythnos helpu i:

Gwella ansawdd y deunydd sy’n cael ei gasglu

Treialodd Cyngor Caerdydd gynllun ailgylchu ar wahân gyda 10,000 o eiddo ledled y ddinas.  Gostyngodd canran yr eitemau anghywir mewn bagiau ailgylchu o 30% i 7%.

Lleihau plastigau untro

Wrth i Gaerdydd gyfan wahanu ei gwastraff ailgylchu, byddwn yn arbed 24 miliwn o fagiau plastig untro y flwyddyn.

Gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd

Trwy wella ansawdd ailgylchu, bydd mwy ohono’n aros yn y DU i gael ei ailgylchu yn hytrach na chael ei anfon dramor.  Mae hyn yn helpu i leihau ein hallyriadau carbon.

Cynyddu ein cyfraddau ailgylchu

Mae ein perfformiad ailgylchu oddeutu 62% sydd o dan darged Llywodraeth Cymru o 70%.  Bydd y newidiadau yn helpu i gynyddu’r gyfradd.

Gallwch ddarllen mwy am ble mae eich ailgylchu yn mynd ar wefan Fy Ailgylchu Cymru.

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd