Skip to main content

Ail-lenwi Caerdydd

Ydych chi’n fusnes sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth? Beth am gofrestru i ddod yn orsaf Ail-lenwi. Mae’n hawdd a chyflym.

I gael mwy o wybodaeth
Ewch i:

UK GOV_WALES_660_MASTER_DUAL_AW

Ydych chi eisiau helpu i atal llygredd plastig yn ein hamgylchedd, arbed arian ac osgoi teimlo’n sychedig?

Gallwch wneud hyn ledled Caerdydd diolch i’n hymgyrch Ail-lenwi Caerdydd – Refill Cardiff.

Rydym wedi gosod nifer o orsafoedd ail-lenwi yng nghanol dinas Caerdydd. Darganfyddwch nhw yn:

  • Marchnad Caerdydd, ger mynediad Stryd y Drindod,
  • Parc Bute, wrth Summerhouse Cafe, a
  • Parc Bute, ger y newidiwr dillad.

Mae ymgyrch hon:

  • Gan gefnogaeth ariannol gan gan Ffyniant Bro Llywodraeth Cymru.
  • Yn cael ei rhedeg gan dimau Carwch Eich Caerdydd a Gwasanaethau Gwastraff Cyngor Caerdydd mewn partneriaeth â Caerdydd AM BYTH.

Lawrlwythwch yr Ap Refill i ddod o hyd i’ch pwynt ail-lenwi agosaf, a chadwch olwg mas am sticeri ffenestri Ail-lenwi.

Gwybodaeth am Refill

Mae Refill yn ymgyrch ar draws y DU gan sefydliad di-elw City to Sea. Mae nod y sefydliad yw atal llygredd plastig morol.

Mae Refill Caerdydd yn anelu at gynyddu nifer y pwyntiau ail-lenwi dŵr sydd ar gael i’r cyhoedd o fewn y ddinas. Mae hyn er mwyn annog symudiad i ffwrdd o blastig defnydd sengl ac tuag at ail-ddefnyddio.

Bwriadwn gyflawni hyn drwy:

  • osod gorsafoedd ail-lenwi, ac
  • annog mwy o fusnesau i gymryd rhan ac eu cyflwyno.

Yn 2023, roedd 57 o fusnesau wedi cofrestru i’r cynllun Refill.

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd