Skip to main content

Beth sy’n digwydd i’ch gwastraff chi

Mae’n bwysig bod pawb yn ailgylchu a chompostio cymaint o wastraff â phosibl.

Gallwn adfer y gwastraff hwn trwy dechnolegau trin i wneud cynhyrchion defnyddiol.

Gwyliwch y fideo i ddarganfod sut rydym yn trosi’ch gwastraff yn ynni a deunyddiau crai.

What happens to your food waste

Mae gwastraff bwyd yn adnodd gwerthfawr a ddefnyddir i gynhyrchu ynni gwyrdd yma yng Nghaerdydd.  Mae’n creu trydan ar gyfer cartrefi, ysgolion a busnesau lleol.

Mae gwastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni i bweru ein cartrefi gan ddefnyddio proses o’r enw treulio anaerobig. Mae hyn yn digwydd yma yng Nghaerdydd.

Edrychwch ar y fideo i ddysgu mwy am y broses.

Gwastraff bwyd: oeddech chi’n gwybod?

  • Gall dim ond un cadi o wastraff bwyd bweru eich tŷ am hanner awr!
  • Wyddech chi fod 6 bag te wedi’u hailgylchu yn gallu cynhyrchu digon o drydan i ferwi tegell?
  • Mewn blwyddyn, gallai’r holl wastraff bwyd yng Nghaerdydd fod wedi llenwi 11 pwll nofio maint Olympaidd!

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am sut mae gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu.

Dolenni defnyddiol

Beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu?

Mae’r cyngor yn casglu ailgylchu gan ddefnyddio system ar wahân, lle mae deunyddiau’n cael eu rhannu i mewn i gynwysyddion amldro.  Mae hyn wedi:

  • gwella ansawdd deunyddiau ailgylchadwy, a
  • lleihau’r defnydd o blastigau untro.

Unwaith bydd y cyngor yn casglu eich ailgylchu a deunyddiau sydd wedi cael eu didoli, maent yn cael eu hailbrosesu yn dibynnu ar y math o ddeunyddiau.  Gwyliwch y fideos i gael gwybod mwy:

Yna mae gweithgynhyrchwyr yn prynu’r deunyddiau hyn ac yn gwneud nwyddau newydd gyda nhw.

Beth sy’n digwydd i ddeunyddiau ailgylchadwy penodol

Gallwch weld beth sy’n digwydd i ailgylchu a gesglir gan y Cyngor ar wefan Fy Ailgylchu Cymru.

Dolenni defnyddiol

Beth sy’n digwydd i’ch gwastraff cyffredinol?

Nid ydym yn anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi yng Nghaerdydd.

Yn hytrach nag anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi, rydym yn gweithio gyda chwmni o’r enw Viridor, sy’n troi ein gwastraff yn ynni.

Ymweld â’r Cyfleuster Adfer Ynni

Os hoffech chi weld beth sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni, trefnwch ymweliad â safle Viridor yng Nghaerdydd?

Beth sy’n digwydd i’ch gwastraff gardd?

Oeddech chi’n gwybod bod eich gwastraff gardd yn cael ei droi’n gompost, y gellir ei ddefnyddio i dyfu mwy o blanhigion?

Trwy ailgylchu gwastraff gardd, rydym yn helpu’r amgylchedd. Roedd effaith amgylcheddol ailgylchu gwastraff gardd mewn blwyddyn yn cyfateb i gymryd bron i 2000 o geir oddi ar y ffordd!

Gwasanaethau’r Cyngor

Dysgwch am wasanaethau gwastraff y Cyngor.

Leaves i

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd