Gweld pob hyb

Ysgrifennydd Garddwyr Gwyllt Cathays – Codi Sbwriel Cymunedol

Drigolion mwyn Cathays

Beth am Garu Eich Cartref a chymryd rhan mewn ymgyrch godi sbwriel cymunedol. Mae’n gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i’r ardal leol, yn ogystal â dod i adnabod eich cymdogion ychydig yn well.

Ble: Woodville Pub, Cathays

Caiff yr holl offer ei ddarparu, ac mae croeso cynnes i blant ddod hefyd (mae crafangau sbwriel llai gennym ar gyfer dwylo bach). Rhaid i bob plentyn aros o dan oruchwyliaeth rhiant neu warchodwr yr holl amser.

Gwisgwch esgidiau addas, a sicrhau eich bod yn gwisgo dillad sy’n addas i’r tywydd.

Gallwch ddysgu mwy am y digwyddiad yma:

https://www.instagram.com/cathayswildgardeners?igsh=YWs0ODg3OHM4M3d3

Digwyddiad cymunedol

Mai 26, 2026

at 6:00 pm - 7:00 pm

Woodville Pub

Woodville Pub
1-5 Woodville Rd,
CF24 4DW