Mae’r haf yma ac mae’n amser i fwynhau ein parciau gwych. Dewch i gwrdd â Thîm Carwch Eich Cartref ac ymuno â ni gasglu sbwriel yn y parc.
Bydd ein Gasebo Carwch Eich Cartref allan a byddwn yn cynllunio strafagansa casglu sbwriel!
Gallwch hefyd gymryd rhan yn Bingo Ysbwriel! Gweler faint o’n sbwriel Bingo y gallwch ddod o hyd iddo yn eich parc lleol!
Gall unrhyw un sy’n casglu sbwriel gyda ni blannu hadau blodau yn ein compost. Mae compost wedi’i wneud o Wastraff Gardd Caerdydd!
Mae’n gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i’r ardal leol, yn ogystal â dod i anabod eich cymdogion ychydig yn well.
Ble:
| Dyddiad | Parc | Lleoliad | Map (w3w) |
| 21/07/2026 | Parc Greenway | Ger yr Ardal Chwarae i Blant | https://w3w.co/godro.tagio.fframio |
| 23/07/2026 | Parc Caedelyn | Ger yr Ardal Chwarae i Blant | https://w3w.co/anifail.trefnwch.cyswllt |
| 28/07/2026 | Parc Sglefrio Llaneirwg | Ger y Parc Sglefrio, y tu ôl i Hyb Llaneirwg | https://w3w.co/canlynol.ystadau.colegau |
| 04/08/2026 | Cae Rec y Rhath | Ger yr Ardal Chwarae i Blant | https://w3w.co/dathlaf.cymerwn.derw |
| 06/08/2026 | Parc Trelai | Ger yr Ardal Chwarae i Blant | https://w3w.co/gwiwer.fferm.gofalodd |
| 11/08/2026 | Parc Bute | Ger Caffi’r Secret Garden | https://w3w.co/cnydio.dynwared.datgloi |
| 18/08/2026 | Parc Victoria | Ger Caffi Bloc | https://w3w.co/hawliau.serol.festiau |
| 25/08/2026 | Gerddi Grange | Ger Pafiliwn y Grange | https://w3w.co/dylunia.siwtio.dilynaf |
Pryd: 10yb – 1yp
Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 10yb ac 1yp i roi cynnig ar gasglu sbwriel neu i gael sgwrs gyda ni!
Darperir yr holl offer, ac mae gennym ni sbwriel arbennig ar gyfer dwylo llai – er bod yn rhaid i bob plentyn dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn
Gwisgwch esgidiau a dillad addas ar gyfer y tywydd.


Comments are closed.