18/09/2026 — 04/10/2026
Mae Tacluso Caerdydd yn ôl!
Am bythefnos yr hydref hwn, bydd cymunedau ledled y brifddinas yn dod ynghyd unwaith eto ar gyfer Tacluso Caerdydd 2026 – ymgyrch wirfoddol fawr, gyfeillgar lle mae pobl ledled Caerdydd yn ymuno i lanhau eu hardaloedd lleol a gwneud gwahaniaeth gweladwy.
Arweinir y digwyddiad gan Cadwch Gymru’n Daclus, Love Where You Live a Grŵp Afonydd Caerdydd.
Drwy gydol yr ymgyrch, gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau casglu sbwriel, gan gynnwys:
- Ymuno â digwyddiad casglu sbwriel a drefnwyd ymlaen llaw (gweler map y digwyddiad ar Cadwch Gymru’n Daclus)
- Benthyg offer o Ganolfan Casglu Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus
- Mynd allan fel unigolion, a defnyddio’r offer sydd ar gael i chi fel Hyrwyddwr sbwriel
- Neu drefnu casgliad sbwriel eich hun gyda ffrindiau, yn eich gweithle neu gyda’r teulu
Mae’n gyfle gwych i gwrdd â gwirfoddolwyr o’r un anian a helpu i wneud gwahaniaeth.
Rydym yn anelu at gynnal digwyddiadau ym mhob ward ledled Caerdydd, gan ddod â phobl ynghyd gyda nod cyffredin: dinas lanach a gwyrddach.
Cynhaliwch eich digwyddiad eich hun
Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu eich casglu sbwriel neu lanhau eich hun, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Am ragor o wybodaeth neu i roi gwybod i ni am ddigwyddiad arfaethedig, cysylltwch â:
lovewhereyoulive@cardiff.gov.uk
neu gareth.davies@keepwalestidy.cymru
Tacluso Caerdydd 2026 – Keep Wales Tidy


Comments are closed.